Walford Davies
Cerddor a chyfansoddwr oedd Syr Henry Walford Davies (6 Medi 1869 – 11 Mawrth 1941) a oedd yn adnabyddus i lawer a wrandawai arno’n darlledu am gerddoriaeth ar y radio.
Walford Davies | |
---|---|
Ganwyd | 6 Medi 1869 Croesoswallt |
Bu farw | 11 Mawrth 1941 Wrington |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | organydd, cyfansoddwr, academydd |
Swydd | Meistr Cerddoriaeth y Brenin |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Priod | Constance Margaret Isabel Evans |
Gwobr/au | OBE, Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd |
Bywyd a gwaith
golyguGaned Walford Davies yng Nghroesoswallt, Lloegr.
Gyrfa academaidd
golyguYmunodd â chôr Capel Sant Siôr, Windsor pan yn 12 oed, lle y bu yn astudio ac yna’n cynorthwyo yr organydd Syr Walter Parratt. Aeth oddi yno yn 1890 i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol. By’n athro gwrthbwynt yn y coleg o 1895 hyd at 1903.
O 1919 hyd at 1926 bu’n athro cerdd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n weithgar yn hybu cerddoriaeth Gymreig yn ei swydd fel cadeirydd Cyngor Genedlaethol Cerddoriaeth Cymru a ddaliodd o 1919 hyd at ei farw.
Cerddor a Chyfansoddwr
golyguBu’n organydd mewn nifer o eglwysi gan gynnwys Eglwys Temple, Llundain a Chapel Sant Siør, Windsor. Bu’n gyfarwyddwr cerdd mewn sawl man gan gynnwys bod yn gyfarwyddwr cerdd i’r Awyrlu Brenhinol ac yn arweinydd Côr Bach.
Cyfansoddodd Walford Davies weithiau ar gyfer cerddorfeydd, bandiau pres, corau ac unawdwyr. Gweithiau crefyddol oedd y mwyafrif o’i gyfansoddiadau.
Darlithydd a darlledwr
golyguYn y 1920au dechrewyd gyhoeddi recordiau o ddarlithoedd Walford Davies ar fiwsig. O 1926 hyd at 1939 bu’n darlledu ar bwnc miwsig clasurol ar wasanaeth radio y BBC. Oherwydd y gwaith radio yma y daeth yn adnabyddus i lawer.
Ar goroni'r brenin Siarl III, ym mis Mai 2023, canodd Roderick Williams y "Confortare" gan Davies.[1]
Anrhydeddau
golygu- Dyrchafwyd ef yn farchog yn 1922.
- Apwyntiwyd ef yn Feistr Cerddoriaeth y Brenin yn 1934.
Gweithiau
golyguDetholiad o’i gyfansoddiadau
golygu- Everyman (oratorio)
- O Little Town of Bethlehem (trefniant)
- RAF March Past (ymdaith i fand pres)
- Solemn Melody (ar gyfer cerddorfa ac organ)
Llyfrau
golygu- The Pursuit of Music (1935)
Llyfryddiaeth
golygu- Walford Davies & the National Council of Music, 1918 – 1941 gan David Ian Allsobrook
- A Forgotten Organist gan Kenneth Shenton (1992)
- The Oxford Companion to Music gan Percy Scholes
- Letters of Frederic Rothwell (1900)
- Music & Letters gan HC Colles (1941)
Llyfryddiaeth ar y we
golygu- Organists of The Temple Church Archifwyd 2005-09-13 yn y Peiriant Wayback
Prif ffynonellau yr erthygl
golygu- Y Bywgraffiadur Cymreig 1941 - 1950 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
Rhagflaenydd Edward Elgar |
Meistr Cerddoriaeth y Brenin 1934–1941 |
Olynydd Arnold Bax |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Famous face leads fellow Kineton villagers in singing of National Anthem". Warwickshire World (yn Saesneg). 9 Mai 2023.