Coroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla
Cynhaliwyd y seremoni i goroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla ar 6 Mai 2023 yn Abaty Westminster, Llundain, y Deyrnas Unedig. Esgynnodd Siarl i'r orsedd ym mhymtheg teyrnas y Gymanwlad yn sgil marwolaeth ei fam, Elisabeth II, ar 8 Medi 2022, a chynhaliwyd y seremoni ffurfiol i dderbyn Siarl yn frenin yn symbolaidd, a'i wraig yn frenhines gydweddog, a'u harwisgo â theyrndlysau a choronau, yn unol â thraddodiadau brenhinol y Deyrnas Unedig.
Y Brenin Siarl III a'r Frenhines Gydweddog Camilla yn chwifio i'r torfeydd o'r balconi blaen wedi iddynt ddychwelyd i Balas Buckingham o'r seremoni. | |
Enghraifft o'r canlynol | coroni'r teyrn Prydeinig |
---|---|
Dyddiad | 6 Mai 2023 |
Lleoliad | Abaty Westminster |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://coronation.gov.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynlluniwyd y seremoni ar sail gwasanaeth Anglicanaidd y Cymun Bendigaid. Cafodd Siarl ei eneinio gydag olew sanctaidd, derbyniodd dlysau'r goron, a dodwyd y goron ar ei ben, defod urddo sydd yn pwysleisio ei swyddogaeth ysbrydol fel Amddiffynnydd y Ffydd—hynny yw, penlywodraethwr Eglwys Loegr—a'i chyfrifoldebau seciwlar. Datganwyd teyrnged iddo gan gynrychiolwyr o Eglwys Loegr a'r teulu brenhinol, a gwahoddwyd deiliaid y teyrnasoedd i wneud hynny hefyd. Coronwyd Camilla hefyd, mewn seremoni fyrrach a symlach. Wedi'r gwasanaeth, teithiodd aelodau o'r teulu brenhinol mewn gorymdaith wladol i Balas Buckingham, ac ymddangosant ar y balconïau yn y blaen a'r cefn. Cafodd nifer o agweddau'r coroniad eu newid o'r arfer hanesyddol, gyda'r nod o gynrychioli crefyddau a diwylliannau ar draws y Deyrnas Unedig, a chwtogwyd ar hyd y seremoni o gymharu â choroni Elisabeth II ym 1953. Hwn oedd y tro cyntaf i'r iaith Gymraeg gael ei chlywed wrth goroni teyrn yn Abaty Westminster: canodd Syr Bryn Terfel a Chôr Abaty Westminster weddi'r Kyrie yn Gymraeg, wedi ei cyfansoddi gan Paul Mealor.[1]
Cynhaliwyd dathliadau i nodi'r coroniad ar draws y Deyrnas Unedig, a theyrnasoedd eraill y Gymanwlad, gan gynnwys partïon stryd, ymgyrchoedd gwirfoddoli, gwasanaethau eglwysig, a chyngerdd yng Nghastell Windsor ar 7 Mai. Yn ôl arolygon o Ebrill 2023, amwys oedd barn y cyhoedd am y coroniad, a rhannwyd y boblogaeth yn gyffredinol yn ôl oedran: yr oedd y cenedlaethau hŷn yn gefnogol o'r coroni, tra bo'r ieuenctid yn ddifater neu yn wrthwynebol iddo. Aeth torfeydd mawr i Lundain i wylio'r orymdaith ac i sbïo ar y brenin a'r frenhines, ac ymgynulliodd eraill ar draws y wlad i wylio darllediadau o'r digwyddiadau. Aeth eraill i Lundain i brotestio, a chafwyd gwrthdystiadau gan weriniaethwyr mewn nifer o ddinasoedd, gan gynnwys Caerdydd. Cynhaliwyd hefyd dathliadau yng Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Antigwa a Barbiwda, a gwledydd eraill. Defnyddiodd rhai yr achlysur i dynnu sylw at hanes gwladychiaeth gan yr Ymerodraeth Brydeinig a'i effaith ar gyn-drefedigaethau heddiw.
Hwn oedd y coroniad cyntaf o deyrn Prydeinig yn yr 21g, a'r 40fed i'w gynnal yn Abaty Westminster ers coroni Wiliam I ym 1066.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bryn Terfel yn canu yn y Gymraeg yn seremoni'r Coroni". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 8 Mai 2023.
- ↑ "A history of coronations". www.westminster-abbey.org. Dean and Chapter of Westminster. 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 March 2023. Cyrchwyd 19 March 2023.