Henryk Sienkiewicz

Nofelydd a newyddiadurwr Pwylaidd oedd Henryk Adam Alexander Pius Sienkiewicz (5 Mai 184615 Tachwedd 1916) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1905. Mae'n nodedig am ei nofelau hanesyddol, yn enwedig ei glasur Quo Vadis (1896). Ysgrifennai dan y ffugenw Litwos.

Henryk Sienkiewicz
Ffotograff o Henryk Sienkiewicz ym 1896.
GanwydHenryk Adam Aleksander Pius Sienkiewicz Edit this on Wikidata
5 Mai 1846 Edit this on Wikidata
Wola Okrzejska Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 1916 Edit this on Wikidata
o clefyd cardiofasgwlar Edit this on Wikidata
Vevey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Uniwersytet Warszawski Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, sgriptiwr, newyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Gwyddoniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
Adnabyddus amJanko Muzykant, With Fire and Sword, The Deluge, Fire in the Steppe, Quo Vadis, The Knights of the Cross, In Desert and Wilderness Edit this on Wikidata
Arddullnofel, nofel fer, reportage, nofel fer, stori fer, feuilleton Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHenryk Rzewuski Edit this on Wikidata
MudiadQ11761905, Positivism in Poland Edit this on Wikidata
PriodMaria Szetkiewicz, Maria Romanowska-Wołodkowicz, Maria Babska Edit this on Wikidata
PlantJadwiga Korniłowiczowa Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Sienkiwicz Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Wola Okrzejska, Gwlad Pwyl y Gyngres, lle'r oedd ei deulu yn berchen ar ystâd fach. Wedi iddynt golli eu harian a'u tir, symudodd y teulu i Warsaw ac yno astudiodd Henryk lenyddiaeth, hanes, ac ieitheg ym Mhrifysgol Warsaw. Dechreuodd gyhoeddi erthyglau ym 1869 ar bynciau gwyddonol ac yn clodfori Positifiaeth. Gadawodd y brifysgol ym 1871 heb iddo ennill ei radd.[1]

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Na marne, ym 1872 a'i stori fer gyntaf, "Stary sługa", ym 1875. Teithiodd Sienkiewicz i Unol Daleithiau America ym 1876–78, ac ymwelodd â Pharis am gyfnod hir cyn iddo ddychwelyd i Wlad Pwyl. Cyhoeddodd gyfres o straeon byrion llwyddiannus, gan gynnwys "Janko muzykant" (1879), "Latarnik" (1882), a "Bartek zwyciezca" (1882). Sienkiewicz oedd cyd-olygydd y papur newydd dyddiol Słowo o 1882 i 1887. Nofelau enwocaf Sienkiewicz yw'r triawd am hanes Gwlad Pwyl yn y 17g—Ogniem i meiczem (1884), Potop (1886), a Pan Wołodyjowski (1887–88)—a Quo Vadis (1896) a leolir yn Rhufain hynafol yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero.

Ym 1900, i nodi 30 mlynedd ers cychwyn ar ei yrfa lenyddol, gwobrwywyd iddo ystâd Oblęgorek, ger Kielce, ac yno fe drigai nes 1914. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd Sienkiewicz i'r Swistir, a chyda'r pianydd a chyfansoddwr Ignacy Jan Paderewski (a fyddai'n Brif Weinidog ei wlad wedi diwedd y rhyfel) ymgyrchai dros annibyniaeth Gwlad Pwyl. Bu farw yn Vevey, Vaud, y Swistir, yn 70 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Henryk Sienkiewicz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mawrth 2021.