Herbert Watkin Williams-Wynn

AS Maldwyn o 1850 i 1862

Roedd y Cyrnol Herbert Watkin Williams-Wynn (29 Ebrill 182222 Mehefin 1862) yn filwr ac yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Maldwyn.[1]

Herbert Watkin Williams-Wynn
Ganwyd29 Ebrill 1822 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1862 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethswyddog milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadSyr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig Edit this on Wikidata
Mamyr Arglwyddes Henrietta Clive Edit this on Wikidata
PriodAnna Lloyd Edit this on Wikidata
PlantEdward Watkin Williams-Wynn, Helen Florentila Williams-Wynn, Syr Herbert Williams-Wynn, 7fed Barwnig, Syr Watkin Williams-Wynn, 9fed barwnig Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Williams-Wynn yn Llundain ym 1822. Roedd yn ail fab i Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig a Henrietta merch Edward Clive, Iarll cyntaf Powys ac yn unig frawd i Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig.

Priododd Anna Lloyd merch Edward Lloyd Plas Cefn Meiriadog, Llanelwy ar 26 Gorffennaf 1855, bu hi farw ym 1926; bu iddynt bedwar o blant:

Ymunodd ar fyddin yn 1839 fel llumanwr gan gael ei ddyrchafu yn Is gyrnol yn 2il Gatrawd Gorllewin yr India ym 1854 gan ymadael ar fyddin reolaidd ym 1855. Bu'n wasanaethu wedyn fel Uwchgapten yng Nghatrawd Reiffl Gwirfoddol Sir y Fflint am weddill ei oes.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Cafodd ei ethol i'r senedd fel aelod Ceidwadol Maldwyn ar farwolaeth ei ewythr Charles Watkin Williams Wynn, gan wasanaethu am 4 tymor seneddol. Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar bob achlysur.

Marwolaeth

golygu

Bu farw o ganlyniad i niweidiau derbyniodd o ganlyniad i gael ei daflu o'i gyfryw gan ei geffyl wrth ddychwelyd adref o gyfarfod o'r Catrawd Gwirfoddol ym 1862, roedd yn 40 oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell ei deulu yn yr Eglwys Wen, Bodelwyddan.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 'Death of Lt Col Herbert Williams Wynn Wrexham Advertiser 28 Mehefin 1862 tud 7 Col 5
  2. "No title - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1862-06-27. Cyrchwyd 2020-02-04.
  3. Colonel Herbert Watkin Williams-Wynn Tatton Park - Its' People [1] Archifwyd 2009-12-16 yn y Peiriant Wayback adalwyd 19 Ebrill 2015
  4. Gwladgarwr 28 Mehefin 1862 [2] adalwyd 19 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Watkin Williams Wynn
Aelod Seneddol Maldwyn
18501862
Olynydd:
Charles Watkin Williams-Wynn