Charles Watkin Williams-Wynn (1822–1896)

gwleidydd (1822-1896)

Roedd Charles Watkin Williams-Wynn (4 Hydref 182225 Ebrill 1896) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a eisteddodd yn Nhŷ'r Cyffredin o 1862 i 1880 fel Aelod Seneddol Maldwyn [1]

Charles Watkin Williams-Wynn
Ganwyd4 Hydref 1822 Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1896 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadCharles Watkin Williams-Wynn Edit this on Wikidata
MamMary Cunliffe Edit this on Wikidata
PriodAnnora Charlotte Pierrepont Edit this on Wikidata
PlantMary Williams-Wynn, Charles Hugh Watkin Williams-Wynn, Agnes Sophia Williams-Wynn, Annora Margaret Williams-Wynn, Constance Hariott Williams-Wynn, Arthur Watkin Williams-Wynn, Henry Cunliffe Williams-Wynn, Frederick Rowland Williams-Wynn Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Charles yn fab ac etifedd y Gwir Anrhydeddus Charles Watkin Williams Wynn, Pentrego, AS Maldwyn o 1799 i 1850 a Mary merch hynaf Syr Foster Cuniliffe.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist Rhydychen lle graddiodd BA ym 1843 ac MA ym 1845.

Ym 1853 priododd y Ledi Annora Pierrepont, ail ferch yr ail Iarll Manvers, bu hi farw ym 1888. Bu iddynt wyth o blant:

  • Mary Williams-Wynne (1854–1951)
  • Arthur Watkin Williams-Wynne (1856–1948)
  • Charles Hugh Williams-Wynne (1858–1858)
  • Agnes Sophia Williams-Wynne (1859–1954)
  • Annora Margaret Williams-Wynne (1860–1954)
  • Henry Cunliffe Williams-Wynne (1863–1914)
  • Constance Williams-Wynne (1863–?)
  • Frederick Watkin Williams-Wynne (1865–1940)

Gyrfa golygu

Galwyd Williams-Wynne i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1846 a fu'n gweithio fel Bargyfreithiwr Adolygol hyd iddo etifeddu ystâd ei dad ym 1850.

Roedd yn Cofiadur Llysoedd Croesoswallt o 1862 hyd at ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth ac yn Ynad Heddwch Sir Drefaldwyn [2]

Gyrfa wleidyddol golygu

Cyn fu newidiadau i'r drefn ddemocrataidd i ehangu'r bleidlais ac i fwrw pleidlais mewn dirgelwch ystyrid etholaeth Maldwyn yn eiddo i deulu Williams-Wynne. Rhagflaenydd Charles fel Aelod Seneddol oedd Herbert Watkin Williams-Wynn ei gefnder (roedd y ddau yn ŵyr i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig). Rhagflaenydd Herbert oedd Charles Watkin Williams-Wynn yr hynaf, tad Charles Williams-Wynn; bu hen daid Charles Syr Watkin Williams-Wynne, 3ydd Barwnig yn cynrychioli'r sedd yn y 1740au.

Etholwyd Charles Williams-Wynn am y tro cyntaf mewn isetholiad ym 1862 a achoswyd trwy farwolaeth ei gefnder, dyma fu'r etholiad cystadleuol cyntaf yn yr etholaeth ers 1831. Llwyddodd Williams- Wynne i drechu ei wrthwynebydd Rhyddfrydol, Charles Hanbury-Tracy, yn weddol gyffyrddus. Bu'r etholiad yn un nodedig gan i dorf o ryw 400-500 o bobl tarfu ar gefnogwyr Williams-Wynn yn Llanidloes er mwyn ceisio eu rhwystro rhag pleidleisio; cafodd pedwar o arweinwyr y brotest eu carcharu am 3 mis am eu rhan yn y digwyddiad.[3]

Cafodd Williams-Wynne ei ailethol yn ddiwrthwynebiad mewn pob etholiad hyd 1880 pan wynebodd wrthwynebiad gan ymgeisydd Rhyddfrydol, Stuart Rendel, a cholli ei sedd a chanrifoedd o ddylanwad ei deulu ar yr etholaeth. Ceisiodd adennill ei sedd yn etholiad cyffredinol 1885 ond heb lwyddiant, ac arhosodd yr etholaeth yn nwylo'r Rhyddfrydwyr am y nawdeg naw flwyddyn ddilynol[4]

Roedd Williams-Wynn yn ystyried ei aelodaeth o'r Senedd fel dyletswydd bonheddig yn hytrach na gyrfa wleidyddol, gan hynny prin oedd ei gyfraniadau i waith Tŷ'r Cyffredin (dim ond naw araith mewn 12 mlynedd)[5].

Marwolaeth golygu

Bu farw Williams-Wynn yn ei gartref yn Llundain 2 Lower Berkeley Street a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys Meifod

Cyfeiriadau golygu

  1. "DEATH OF CHARLES WATKIN WILLIAMS WYNN ESQ - The Montgomery County Times and Shropshire and Mid-Wales Advertiser". Samuel Salter, Junior & David Rowlands. 1896-05-02. Cyrchwyd 2020-02-04. line feed character in |title= at position 6 (help)
  2. Carnarvon and Denbigh Herald 17 Ebrill 1896 [1] adalwyd 19 Ebrill 2015
  3. The Llanidloes Election Riots Cardiff and Merthyr Guardian 21 Mawrth 1863 [2] adalwyd 19 Ebrill 2015
  4. Seats to be won in Wales Cambrian 19 Mawrth 1880 [3] adalwyd 19 ebrill 2015
  5. "Mr Charles Wynn Contributions Hansard". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-04-20.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Herbert Watkin Williams-Wynn
Aelod Seneddol Maldwyn
18681880
Olynydd:
Stuart Rendel