Pobl yn siarad yr Hetheg, iaith Indo-Ewropeaidd, ac yn byw yn Anatolia (Twrci yn awr) oedd yr Hethiaid. Yn y canrifoedd wedi 1600 CC, creasant ymerodraeth yn ymestyn dros ardal eang, gyda Hattusa fel prifddinas. Gyda'r Aifft a Babilon, roeddynt yn un o'r pwerau mawr yn y dwyrain canol yn y cyfnod yma. Daw'r enw Hatti o ddogfennau'r Asyriaid; ni wyddom beth oedd enw'r Hethiaid arnynt ei hunain.

Hethiaid
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
MamiaithHetheg edit this on wikidata
CrefyddHittite religion, hittite mythology edit this on wikidata
Dechrau/SefydluMileniwm 2. Edit this on Wikidata
GwladwriaethHatti, Kussara Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ymerodraeth yr Hethiad; coch tywyll: tiriogaeth yr Hethiaid tua 1560 CC; coch golau: ymestyniad mwyaf yr ymerodraeth, cyn Brwydr Kadesh. Ymerodraeth yr Aifft mewn gwyrdd

Dim ond yn y 19g yr ail-ddarganfuwyd yr Hethiaid. Yn 1834, cafodd Charles Félix Tesier (1802-1871) hyd i weddillion hen ddinas ger pentref Bogazköy yn Anatolia, a daeth yn amlwg trwy gloddio archaeolegol mai hon oedd dinas Hattusa. Gwnaed darganfyddiadau archaeolegol pwysig yma, yn cynnwys archif o ddogfennau'r ymerodraeth. Ceir llawer o sôn amdanynt yng ngofnodion yr Hen Aifft, oedd yn un o'r grymoedd oedd yn cystadlu a hwy; er enghraifft ymladdwyd Brwydr Kadesh rhwng yr Aifft a'r Hethiaid. Ceir cyfeiriadau atynt yn y Beibl hefyd.