Ffabl
Ffurf hen iawn ar y ddameg yn y traddodiad llafar yw'r ffabl. Diarhebion ar ffurf straeon ydynt, i'w cofio am gyngor neu rybudd. Ei brif nodwedd sy'n gwahanu'r ffabl o ddamhegion eraill yw dynweddiant (anthropomorffaeth) y cymeriadau.
Fel rheol mae gan y ffabl dair rhan: cyflwyniad, sy'n disgrifio'r olygfa a'r sefyllfa; cymhlethdod, o ganlyniad i ddrwgweithred neu gamgymeriadau'r cymeriadau; a datrysiad yn sgil cosb neu haeddiant, gan ffurfio'r foeswers. Gan amlaf mae'r stori yn cynnwys anifeiliaid, planhigion a nodweddion naturiol a chanddynt briodweddau dynol. Maent yn straeon byrion a phwrpasol. Adroddiant cryno heb lawer o ddisgrifiad sydd ganddynt, yn llawn digwydd a sgwrs, efo brawddegau dramatig sy'n cloi'r stori.
Mae'n bosib i'r ffabl darddu yn yr hen India, a'i ledu i Bersia a'r Dwyrain Canol, ac yna i Wlad Groeg ac Ewrop. Y Groegwr Esop yw'r chwedleuwr enwocaf yn nhraddodiad y Gorllewin. Cynhwysir mwy na 250 o ffablau mewn casgliadau o'i waith. Addasid ei chwedlau gan nifer o lenorion, megis Oscar Wilde, Leo Tolstoy, Benjamin Franklin a Jonathan Swift.