Hirgrwn
Mae hirgrwn yn gromlin caeedig mewn plân geometraidd sydd yn edrych yn debyg i amlinelliad o wy neu elíps. Defnyddir y term o fewn meysydd megis geometreg tafluniol, lluniadau technegol, ac ati. Gelwir y fersiwn tri dimensiwn yn ofoid.
Nid yw'r term 'hirgrwn', pan gaiff ei ddefnyddio i ddisgrifio cromlin, mewn geometreg, wedi'i diffinio'n dda, ac eithrio yng nghyd-destun geometreg. Dyma rai o'r nodweddion sy'n gyffredin i siapau hirgrwn:
- mae'r ymyl yn llyfn
- mae'r siâp yn eithaf tebyg i'r elíps
- mae ganddynt, fel arfer, linell cymesuredd, er nad yw hyn yn angenrheidiol
- hirgrwn Cassini
- rhannau o gromlin eliptig
- wy Moss
- uwch-elíps
- hirgrwn Cartesaidd
- stadiwm (term mewn geometreg)
Term
golyguMae'r term 'hirsgwar' wedi diflannu o'r Gymraeg ers yr 1980au, gan i fathemategwyr nodi nad yw'r siâp yn sgwâr, a defnyddir y term 'petryal' heddiw. Yn yr un modd, gellir dadlau nad oes y fath beth a chylch ymestynedig, gan ei fod, wrth ei ymestyn, yn peidio a bod yn gylch.