Mathemategydd

person efo llawer o gwybodaeth am mathemateg
(Ailgyfeiriad o Mathemategwyr)

Arbenigwr ym maes Mathemateg yw mathemategydd, ac sy'n astudio rhif, data, modelau, strwythur, gofod, newid (Calcwlws) a nifer o israniadau eraill. Yn aml mae'n datrus problemau mathemategol naill ai mewn mathemateg bur neu mathemateg gymhwysol, ar gyfer sefyllfaoedd real y byd mawr.[1][2]

Euclid gyda'i galiper; ystyrir Euclid (fl. 300 CC) yn dad geometreg; paentiad o tua 1474.

Un o'r mathemategwyr cyntaf y ceir conod ohono yw Thales o Filetus (c. 624–c.546 CC) a'r ferch gyntaf oedd Hypatia o Alexandria (AD 350 - 415) a ysgrifennodd nifer o lyfrau ar fathemateg gymhwysol. Blodeuodd tad geometreg, sef Euclid o Alexandria yn 300 CC. Magwyd sawl cyfieithydd Islamaidd a drodd at fathemateg, gan gynnwys Ibn al-Haytham; un nodwedd ohonynt oedd eu bod yn aml-ddisgyblaethol, yn bolymath. Yn yr Oesoedd Canol roedd mathemategwyr Ewropeaidd yn dilyn gyrfâu eraill, gan droi at fathemateg fel diddordeb: peiriannydd oedd Niccolò Fontana Tartaglia, cyfreithiwr oedd François Viète a meddyg oedd y Cymro Robert Recorde.[3][4]

Erbyn y 17g, daeth y prifysgolion yn feithrinfeydd i syniadau newydd gyda Robert Hooke a Robert Boyle ym Mhrifysgol Rhydychen ac Isaac Newton yng Nghaergrawnt.[5]

Mathemategwyr o Gymru golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Boyer (1991), A History of Mathematics, p. 43
  2. (Boyer 1991, "Ionia and the Pythagoreans" p. 49)
  3. "Ecclesiastical History, Bk VI: Chap. 15". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-14. Cyrchwyd 2018-11-05.
  4. Abattouy, M., Renn, J. & Weinig, P., 2001. Transmission as Transformation: The Translation Movements in the Medieval East and West in a Comparative Perspective. Science in Context, 14(1-2), 1-12.
  5. Röhrs, "The Classical Idea of the University," Tradition and Reform of the University under an International Perspective tud.20