Hethiaid
Pobl yn siarad yr Hetheg, iaith Indo-Ewropeaidd, ac yn byw yn Anatolia (Twrci yn awr) oedd yr Hethiaid. Yn y canrifoedd wedi 1600 CC, creasant ymerodraeth yn ymestyn dros ardal eang, gyda Hattusa fel prifddinas. Gyda'r Aifft a Babilon, roeddynt yn un o'r pwerau mawr yn y dwyrain canol yn y cyfnod yma. Daw'r enw Hatti o ddogfennau'r Asyriaid; ni wyddom beth oedd enw'r Hethiaid arnynt ei hunain.
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Mamiaith | Hetheg |
Crefydd | Hittite religion, hittite mythology |
Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 2. |
Gwladwriaeth | Hatti, Kussara |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dim ond yn y 19g yr ail-ddarganfuwyd yr Hethiaid. Yn 1834, cafodd Charles Félix Tesier (1802-1871) hyd i weddillion hen ddinas ger pentref Bogazköy yn Anatolia, a daeth yn amlwg trwy gloddio archaeolegol mai hon oedd dinas Hattusa. Gwnaed darganfyddiadau archaeolegol pwysig yma, yn cynnwys archif o ddogfennau'r ymerodraeth. Ceir llawer o sôn amdanynt yng ngofnodion yr Hen Aifft, oedd yn un o'r grymoedd oedd yn cystadlu a hwy; er enghraifft ymladdwyd Brwydr Kadesh rhwng yr Aifft a'r Hethiaid. Ceir cyfeiriadau atynt yn y Beibl hefyd.