Yn y gyfres manga ac anime Naruto, y prif Ninja ac arweinwr pentref cudd Konoha yw'r Hokage (火影 - Japaneg). Trwy gydol y gyfres, pump Hokage sydd wedi rheoli erbyn hyn. Er mwyn anrhyddedu'r Hokage, mae eu gwynebau yn cael eu cerfio mewn i'r graig enfawr sydd yn goruchwylio Konoha.

Y graig gyda gwynebau y Hokage gorffennol

Hokage Gorffennol

golygu

Hashirama Senju

golygu

Y Hokage Gyntaf oedd Hashirama gan fod ef a chrëodd Konoha. Ei fedr oedd y fedr arddull pren, ac roedd hefyd ganddo'r gallu i reoli unrhyw bwystfil cynffonnog. Tadcu Tsunade oedd Hashirama.

Tobirama Senju

golygu

Yr Ail Hokage oedd Tobirama, wedi'i etholi gan Hashirama cyn iddo farw.

 
Y Trydydd Hokage, Hiruzen Sarutobi

Hiruzen Sarutobi

golygu

Hiruzen Sarutobi, y Trydydd, yw'r Hokage sydd wedi rheoli'n hiraf ar ddau derm gwahannol. Fe oedd Sensei Jirayia, Tsunade, ac Orochimaru; er Orochimaru oedd hoff ddisgybl Hiruzen, Orochimaru oedd achos marwolaeth Hiruzen.

 
Minato Namikaze, tad Naruto

Minato Namikaze

golygu

Y Pedwerydd Hokage oedd Minato, a hefyd tad i Naruto. Fel Naruto, Jirayia oedd Sensei Minato ac yna daeth Minato yn Sensei i Kakashi. Rhoddodd Minato ei fywyd er mwyn selio'r Kyuubi am fyth.

Tsunade

golygu

Tsunade yw'r Pumed Hokage, a hefyd wyres y Gyntaf. Mae Tsunade yn dod yn Sensei i Sakura Haruno ar ôl derbyn swydd y Hokage, ac yn dysgu ei Ninjutsu personol iddi.

Er am gyfnod byr, daeth Danzo y Chweched Hokage ar ôl i Tsunade cwympo'n amwybodol trwy'r brwydr rhwng Naruto a Pain.