Roedd Hopkin Davies (18731948) yn chwaraewr rygbi'r undeb bu'n chware dros Abertawe a Thîm Cenedlaethol Cymru .

Hopkin Davies
Dyddiad geni 1873
Man geni Clydach
Dyddiad marw 1948
Taldra 5 troedfedd 6 modfedd
Pwysau 11 stôn 10 pwys
Gwaith Gweithiwr Tunplat
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1876-1888 C R Ynys-pen-llwch
Clwb Rygbi Treforys
Clwb Rygbi Abertawe
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1892-1902 CymruCymru 4 (0)

Cefndir golygu

Ganwyd Davies yng Nghlydach, plwyf Llangyfelach, yn blentyn i James Davies toddwr copr a Jane ei wraig. Bu farw Jane pan oedd ei mab yn blentyn ifanc. Ailbriododd James â Catherine Morris cyn iddo ef marw hefyd, felly cafodd ei fagu am lawer o'i blentyndod gan ei lysfam.

Mewn cyfnod lle fu chware rygbi yn gamp amatur, bu Davies yn ennill ei gyflog trwy weithio yn y gwaith tunplat.[1]

Gyrfa Rygbi golygu

Gyrfa clwb golygu

Dechreuodd Davies ei yrfa rygbi fel cefnwr i dîm Ynys-pen-llwch. Ar ôl tymor symudodd i dîm Treforys lle fu am dri thymor yn chware, yn bennaf, fel cefnwr ond yn achlysurol fel blaenwr cyn symud i fod yn flaenwr i Abertawe ym 1896.[2] Ychydig wedi cychwyn ei yrfa yn Abertawe daeth Ivor Grey, un o gyn chwaraewyr Treforys oedd wedi troi at rygbi proffesiynol y gynghrair ar daith adref i geisio dwyn perswâd ar nifer o chwaraewyr ei hen dîm i dderbyn tal i chware i Salford. Llwyddodd denu dau chwaraewr Bill Llywellyn a D Fisher ond gwrthododd Davies y cynnig.[3] Bu'n chwaraewr rheolaidd i Abertawe hyn 1902. Chwaraeodd un gêm i lenwi bwlch chwaraewr absennol dros Abertawe ym 1906 [4] a chwaraeodd mewn gem Chwaraewyr v Cyn chwaraewyr ym 1907 ar ran y cyn chwaraewyr.[5] Bu'n chwaraewr llanw i dîm Pontardawe ym 1907 [6] ac Aberbargoed ym 1909.[7]

Bu hefyd yn chwaraewr rheolaidd i dîm Sir Forgannwg.[8]

Gyrfa ryngwladol golygu

Daethpwyd â Davies i mewn i garfan Cymru i chwarae yn y ddwy gêm Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1898 yn erbyn Iwerddon a Lloegr. Roedd Cymru newydd ddychwelyd o flwyddyn allan o rygbi rhyngwladol oherwydd cyhuddiadau o broffesiynoldeb a gododd wedi i gasgliad cael ei wneud ar gyfer tysteb i Arthur Gould ar adeg ei ymddeoliad. Roedd Davies yn un o bum cap newydd a ddaeth i mewn i'r pac i wynebu Iwerddon. Roedd Davies yn un o ddim ond dau chwaraewr o Abertawe yn y garfan, ynghyd â chapten Cymru Billy Bancroft, gyda Caerdydd yn darparu bron i hanner y tîm. Gorffennodd y gêm Iwerddon 3 Cymru 11,[9] ac ail-ddewiswyd Davies ar gyfer gêm olaf y twrnamaint, yn erbyn Lloegr. Collodd Cymru’r ornest 14-7 [10] a’r tymor nesaf gwelwyd ailwampio mawr arall o’r blaenwyr, gyda Davies yn colli ei le.

Bu Davies ar y fainc i Gymru ym 1900, ond heb gael ei ddefnyddio fel eilydd.[11] Cafodd ei alw'n ôl i'r tîm cychwynnol ar gyfer ail gêm Gymru ym Mhencampwriaeth 1901, daethpwyd ag ef i mewn i'r pac yn lle William Henry Williams o dîm Rhisga. Er bod y tîm wedi ennill gêm agoriadol y twrnamaint yn erbyn Lloegr, codwyd amheuon yn y wasg am gydlyniad pac Cymru, a phrofwyd hyn pan chwalodd gêm Cymru tua diwedd yr ornest gan ganiatáu buddugoliaeth i'r Alban.[12] Chwaraeodd Davies mewn un gêm arall i Gymru, yng ngêm olaf tymor 1901, gan wynebu Iwerddon ar faes ei glwb yn Abertawe. Enillodd Cymru gêm dynn, ond gollyngwyd Davies ar gyfer y Bencampwriaeth nesaf ac ni chynrychiolodd Gymru eto.

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad Clas, Llangyfelach, Abertawe 1891. Dosbarth RG12/4472; Ffolio: 19; Tud: 34
  2. "PAST CONTESTS BETWEEN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-03-19. Cyrchwyd 2020-06-20.
  3. "FOOTBALLERS GOING NORTH - South Wales Echo". Jones & Son. 1896-11-21. Cyrchwyd 2020-06-20.
  4. "FOOTBALL NOTES - The Cambrian". T. Jenkins. 1906-04-06. Cyrchwyd 2020-06-20.
  5. "THE SCOTCH MATCH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-01-30. Cyrchwyd 2020-06-20.
  6. "PONTARDAWE V DAN Y GRAIG - The Cambrian". T. Jenkins. 1907-02-22. Cyrchwyd 2020-06-20.
  7. "Ifor Footballers - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-10-08. Cyrchwyd 2020-06-20.
  8. "County Football - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-01-28. Cyrchwyd 2020-06-20.
  9. "IrWALES V IRELAND - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-03-19. Cyrchwyd 2020-06-20.
  10. "VVales Beaten by England - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-04-04. Cyrchwyd 2020-06-20.
  11. "WELSH RUGBY UNION - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-01-11. Cyrchwyd 2020-06-20.
  12. "GREAT VICTORY FOR THE SCOTCH MEN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-02-11. Cyrchwyd 2020-06-20.