Llysieuyn bychan ydy'r hopys (Lladin: Humulus lupulus) a ddefnyddir i roi blas a chadernid i gwrw ac mewn moddion llysieuol. Credir iddo gael ei ddefnyddio i roi blas ar gwrw mor bell yn ôl â'r 11g ond mae dogfennau o'r Almaen yn dangos iddyn nhw gael eu tyfu yno yn 736 O.C.[1] Gall y planhigyn dyfu'n gyflym iawn ac fel arfer fe'i gwelir yn dringo rhesi o linyn mewn caeau pwrpasol, hyd at 6 metr o ran hyd.

Un o gonau benywaidd yr hopys

Rhinweddau meddygol

golygu

Dywedir ei fod yn blanhigyn da ar gyfer gwella diffyg cwsg mewn person o'i yfed fel te; gellir hefyd ei stwffio y tu fewn i'r gobennydd.[2] Mae Comisiwn Ymchwil i Iechyd, yr Almaen wedi profi y tu hwnt i amheuaeth ei fod yn dda i gynorthwyo person i gysgu.[3]

Cred llawer fod gan y llysieuyn hwn rinweddau eraill, sef at y diffyg traul ac fel antiseptig. Gan ei fod yn perthyn i'r un teulu â marijuana, cred rhai bod y perthynas â chwsg yn deillio o'r un fan.[3]

Gellir ei gymryd wrth ei hun, ond fel arfer, cymysgir ef gyda pherlysieuyn rhinweddol arall, sef Triaglog (valarian).

Cyfeiriadau

golygu
  1. A History of Brewing gan H S Corran ISBN 0715367358
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  3. 3.0 3.1 [1] 'The Encyclopedia of Alternative Medicine'

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato