Un o symtomau diffyg traul ydy poen yn y bol. (Saesneg: dyspepsia neu indigestion). Mae'n gyflwr meddygol sy'n achosi poen yn rhan ucha'r abdomen a'r teimlad o fod yn llawn cyn bwyta. Gall hefyd wneud i rywun dorri gwynt, gael dŵr poeth neu deimlo'n sâl.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Fe'i achosir gan asid yn y stumog yn dod i gysylltu gyda leining senstitif y stumog (y miwcosa) sy'n cael ei dorri i lawr gan yr asid. Weithiau gall gyffuriau achosi diffyg traul neu afiechyd arall.

Mae diffyg traul yn broblem cyffredin iawn ac fel arfer rhywbeth dros dro ydyw nad oes angen ateb meddygol iddo. Ar adegau eraill gall nodi fod problem dyfnach yn bodoli megis reflux.

Meddygaeth amgen golygu

Dywedir fod y llysiau canlynol yn help i ledfu'r boen: Cardamom, Erwain, Mandarin, Meillion coch, Mintys a Saets y waun.


  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato