Anhunedd

(Ailgyfeiriad o Diffyg cwsg)

Y cyflwr meddygol a seicolegol o goll neu ddiffyg cwsg yw anhunedd (insomnia). Mae rhaid wrth gwsg yn fiolegol ac mae anghenion unigolion yn amrywio'n fawr o tua tair i ddeg awr y nos, gan ddibynnu ar eu hoedran ac amgylchiadau eraill. Achosir anhunedd gan newid arferion, pryder, iselder a chyffuriau neu feddyginiaethau.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Gall fod yn flinedig iawn - fel canlyniad i orweithio, er enghraifft - peri anhunedd hefyd, gan fod y corff a'r meddwl yn methu ymlacio'n iawn.

Mae llawer o bobl yn credu mewn "cyfrif defaid" er mwyn syrthio i gysgu; mae rhywfaint o sail i'r gred hon gan fod undoniaeth y dasg yn debyg o beri i'r dioddefwr ymgolli ynddi a syrthio i gysgu mewn canlyniad. Ceir moddion soporiffig sy'n gallu helpu hefyd, ond mae perygl o ddod yn gaeth iddyn nhw os caent eu defnyddio am gyfnod hir a dylid ymgynghori â meddyg bob tro cyn eu defnyddio.

Triniaeth golygu

Gall eich diet neu eich amserlen o ddydd i ddydd effeithio ar eich cwsg, ond mae pethau y gallwch eu gwneud i geisio cysgu’n well. Mae Childline yn awgrymu'r camau canlynol er mwyn ceisio cysgu'n well.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gyfforddus golygu

Dim rhy boeth, dim rhy oer, dim rhy swnllyd na llachar.

Gwnewch ymarfer corff golygu

Peidiwch â mynd dros ben llestri ond rhowch gynnig ar nofio neu gerdded yn rheolaidd. Yr amser gorau i wneud ymarfer corff yw yn ystod y dydd – yn benodol yn hwyr yn y prynhawn neu’n gynnar gyda’r nos. Gall gwneud ymarfer corff yn hwyrach na hyn amharu ar eich cwsg. Mae ymarfer corff yn llosgi egni ac yn rhyddhau endorffinau – cemegau naturiol sy’n eich helpu i ymlacio a theimlo’n llai pryderus.

Ysgrifennwch golygu

Os oes rhywbeth yn eich poeni ac nid oes modd gwneud dim i wella’r sefyllfa ar unwaith, ceisiwch ysgrifennu’r hyn sy’n eich poeni i lawr cyn mynd i gysgu. Unwaith i chi ysgrifennu eich pryderon i lawr, gallwch ddelio gyda’r problemau yn y bore.

Ymlaciwch cyn mynd i’r gwely golygu

Mae rhai pobl yn mwynhau darllen i ymlacio. Ceisiwch gadw at lyfrau copi caled – gall y golau o sgriniau cyfrifiadur neu rai e-ddarllenwyr ei gwneud hi’n anodd syrthio i gysgu. Ceisiwch osgoi eistedd o flaen sgrin am o leiaf dwy awr cyn yr amser rydych yn bwriadu mynd i’r gwely.

Cadwch eich ffôn symudol golygu

Os yw eich ffrindiau’n eich cadw’n effro drwy eich ffonio neu drwy anfon negeseuon yn ddi-baid, ystyriwch ofyn iddynt roi’r gorau iddi. Diffoddwch sain eich ffôn, dewiswch y gosodiad ‘peidiwch ag amharu’ – neu diffoddwch eich ffôn yn gyfan gwbl.

Dychmygwch eich hun yn eich hoff le golygu

Caewch eich llygaid a dychmygwch eich hun yn eich hoff le neu yn lle bynnag rydych eisiau bod un diwrnod. Dychmygwch eich hun yn hapus ac yn ymlacio. Anadlwch i mewn ac allan yn araf, gan ymlacio eich cyhyrau nes i chi deimlo fel eich bod wedi ymlacio’n llwyr.[1][2]


Meddygaeth amgen golygu

Defynyddir y planhigyn canlynol i wella diifyg cwsg h.y. fel help i berson gysgu: Briallen Fair.

Gweler hefyd golygu

Dolennu allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Problems sleeping | Childline". www.childline.org.uk. Cyrchwyd 2022-03-05.
  2. "Problemau Cysgu". meddwl.org. 2017-02-27. Cyrchwyd 2022-03-05.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Problemau Cysgu ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall