Horace Charles Jones
Bardd o Gymru oedd yn enwog am ei waith gwrth-Gymreig oedd Horace Charles Jones (6 Chwefror 1906 – 12 Medi 1998).[1]
Horace Charles Jones | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1906 Merthyr Tudful |
Bu farw | 12 Medi 1998 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ganwyd Jones ym Merthyr Tudful[1] a bu farw ei dad mewn pwll glo pan oedd Jones yn bum mlwydd oed[2] neu'n 13 mlwydd oed.[1] Gadawodd ysgol yn 12 mlwydd oed ar daerineb ei fam i weithio yn y pyllau glo.[2] Priododd Delia Griffin ym 1928 a chafon nhw un ferch.[1] Erbyn 1950 roedd Jones yn ennill £150 yr wythnos wrth reoli busnes crefftau, ond rhoddodd y gorau i hyn ar ôl deffro yng nghanol nos ac ysgrifennu ei gerdd gyntaf ar gefn pecyn sigarennau, a dechreuodd ei wraig Delia ei gefnogi'n ariannol trwy weithio rhan amser mewn siop pobydd.[2]
Am 45 mlynedd bu Jones yn dosbarthu'i gerddi ar strydoedd Merthyr, ac yn aml yn sefyll ger postyn lamp ym marchnad y dref (yn ôl Jones felly dim ond o un ochr gallai gael ei ymosod arno) yn condemio yr Eglwys yng Nghymru, BBC Cymru, gwleidyddion o Gymry, a sefydliadau, pobl, a thraddodiadau Cymreig eraill. Bu Jones yn ennyn cefnogaeth ar y dechrau gyda'i ddychangerddi yn erbyn cyfreithwyr, heddweision, ynadon, beilïau, comisiynwyr treth, ac aelodau Llafur y cyngor lleol, ond collodd gefnogaeth wrth ddechrau cynnwys traddodiadau Cymreig poblogaidd ymhlith ei dargedau.[2]
Daeth i sylw'r cyhoedd ym 1955 pan gafodd ei daflu allan o'r Eisteddfod Genedlaethol gan Orsedd y Beirdd am ddosbarthu casgliad o'i gerddi dychanol dan yr enw A Dose of Salts oedd yn cynnwys gwirebau megis "The Eisteddfod is a cultural circus where everything is Welsh except the money". Fe brynodd rhai pobl y pamffled am swllt gan gredu taw rhaglen swyddogol yr Eisteddfod ydoedd.[2]
Ar ddiwrnod gêm rygbi ryngwladol ym 1956 dosbarthodd Jones bennill am rygbi Cymreig a honodd am Gymru:
“ | Lost its nerve and found it all In the blown-up bladder Of a rubber ball. |
” |
O ganlyniad i'r gerdd hon fe gafodd Jones ei gwrdd gan fintai o gefnogwyr rygbi y tu allan i siop cigydd; llwyddodd Jones i ddianc ond o hynny ymlaen bu wastad yn cadw dyrnau haearn yn ei drowsus. Ar achlysur arall fe gafodd Jones ei fwrw'n anymwybodol gan ddyn busnes lleol, a wnaeth yna geisio ei roi ar dân, ond unwaith eto fe ddihangodd.[2]
Ym 1966 cyhoeddodd cyngor Merthyr Tudful gasgliad o waith Jones dan yr enw The Challenger ar gost i'r cyngor o £152 10s. Y diwrnod wedi'r cyhoeddiad fe bregethodd Jones yn erbyn y cyngor am wastraffu arian y trethdalwyr.[2]
Cafodd Jones ddirwy o £2[2] am wrthod llenwi ffurflen ar gyfer Cyfrifiad 1971.[1] Ymddangosodd o flaen y llys mewn gwisg ddu gan ddweud ei fod yn mynychu angladd ar gyfer rhyddid dyn;[2] datganodd i'r llys fod y cyfrifiad yn "ymgais llechwraidd ar [ei] hawliau fel dyn rhydd".[1]