Cyfrifiadau yn y Deyrnas Unedig

Mae cyfrifiadau yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu cynnal pob deng mlynedd ers 1801, heblaw 1941 (yn ystod yr Ail Ryfel Byd). Yn ogystal â chyflenwi llu o wybodaeth diddorol am bobl y wlad, mae canlyniadau'r cyfrifiad yn ddefnyddiol er mwyn dosbarthu adnoddau ar gyfer gwasanaethau rhanbarthol a lleol gan lywodraethau'r Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Cyfrifiadau yn y Deyrnas Unedig
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
Mathcyfrifiad Edit this on Wikidata
Dechreuwyd10 Mawrth 1801 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.census.gov.uk/, http://www.cyfrifiad.gov.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes golygu

Cynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf yn yr ardal a elwir yn y Derynas Unedig heddiw yn y 7g yn nhiriogaeth Dál Riata (a oedd yn cynnwys rhannau o'r Alban a Gogledd Iwerddon). Yr enw a roddwyd arni oedd "Traddodiad Dynion Alba" (Senchus fer n-Alban). Cymerodd Lloegr ei chyfrifiad cyntaf pan gysodwyd Llyfr Dydd y Farn ym 1086 ar gyfer trethu.

Dechreuwyd yr arfer o gymryd cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn y ffurf yr adnabyddir heddiw ym 1801 (dan arweiniad John Rickman a reolodd y 4 cyfrifiad cyntaf hyd 1831). Y rheswm pennaf am gymryd cyfrifiad ar y pryd oedd i ganfod faint o ddynion a all gymryd rhan yn y rhyfeloedd Napoleonaidd, ac yn rannol oherwydd pryderon a gododd yn dilyn cyhoeddiad An Essay on the Principle of Population gan y Gweinidog Thomas Robert Malthus (1798). Dyma 12 o resymau Rickman, a gafodd eu gosod allan ym 1798 a'u hailadrodd mewn dadleuon yn y senedd, ar gyfer cynnal cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig:

  • 'the intimate knowledge of any country must form the rational basis of legislation and diplomacy'
  • 'an industrious population is the basic power and resource of any nation, and therefore its size needs to be known'
  • 'the number of men who were required for conscription to the militia in different areas should reflect the area's population'
  • 'there were defence reasons for wanting to know the number of seamen'
  • 'the need to plan the production of corn and thus to know the number of people who had to be fed'
  • 'a census would indicate the Government's intention to promote the public good' and
  • 'the life insurance industry would be stimulated by the results.'

Mae'r llywodraeth wedi cynnal cyfrifiad pob deng mlynedd ers 1801, y diweddaraf yn 2001 (gweler Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001). Roedd y pedwar cyfrifiad cyntaf (1801–1831) yn rai ystadegol yn bennaf. Hynny yw, dim ond cyfrif y nifer o bobl a wnaethont, gan gynnwys prin unrhyw wybodaeth personol o gwbl. Mae ychydig iawn o recordiau hŷn yn bodoli mewn swyddfeydd recordiau, ond digwydd bodoli fel sgil-gynnyrch y nodiadau a wnaethpwyd gan y cyfrifwyr wrth gymryd y cyfrifiadau cynharaf yw rhain yn unig. Gall rhain gynnwys enwau pawb mewn aelwyd neu'r pen-teulu yn unig. Cyfrifiad 1841 oedd y cyntaf i gofnodi enwau pob unigolyn yn fwriadol.

Ym 1920 pasiwyd Deddf Cyfrifiad 1920, ac mae hwn wedi cyflenwi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer pob cyfrifiad ers hynny.

Ni gynhaliwyd cyfrifiad ym 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Ond, yn dilyn Deddf Cofrestru Cenedlaethol 1939 a gyflwynwyd ar 5 Medi 1939, cyfrifwyd y boblogaeth ar 29 Medi 1939, roedd hyn mewn effaith yn gyfrifiad.

Er y cynhaliwyd cyfrifiad 1931 ar 26 Ebrill 1931, dinistriwyd y cyfrifiad mewn tân yn ystod yr Ail Ryfel Byd (ond damwain ydoedd, nid canlyniad bomio).

Cymerwyd cyfrifiad bychan ar 24 Ebrill 1966 gan defnyddio sampl o 10% o'r boblogaeth. Dyma oedd yr unig dro i lywodraeth y DU gynnal cyfrifiad wedi 5 mlynedd.[1][2][3]

Rhyddhau'r wybodaeth golygu

Mae'r llywodraeth yn cynnal cyfrifiad er mwyn eu cynorthwyo wrth greu polisïau a chynllunio, ac mae'n cyhoeddi'r canlyniadau (ar ffurf ystadegau yn unig) mewn adroddiadau wedi eu argraffu ac ar wefan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (GROS yn yr Alban, NISRA yng Ngogledd Iwerddon). Mae nifer o setiau o ddata hefyd ar gael.

Mae cyrchiad cyhoeddus i adroddiadau unigol y cyfrifiad yn cael ei gyfyngu fel rheol yn ôl termau'r rheol 100 mlynedd (offeryn rhif 12 yr Arglwydd Canghellor, a gyhoeddwyd ym 1966 dan adran 5 (1) Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958) ac hyd at yn ddiweddar, Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 1901 oedd y diweddaraf ar gael i'r cyhoedd.

Mae cyfrifiadau 1901 ac 1911 ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi bod ar gael ers 1960, a cafodd cyfrifiadau'r Alban o'r 19g i gyd eu rhyddhau wedi 50– 80 mlynedd. Mewn rhai amgylcheddau eithriadol, bydd Cofrestrydd Cyffredinol Lloegr a Chymru yn rhyddhau gwybodaeth benodedig o gyfrifiadau 70-, 80-, neu 90-oed sydd dal ar gau i'r cyhoedd.

Mae rhai yn dadlau nad oedd gweinidogion a gweision sifil yng Nghymru a Lloegr wedi ceisio gorfodi'r polisi 100 mlynedd yn llym tan 2005, pum mlynedd wedi i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gael ei basio, ac maent yn dadlau y dylai'r ddeddf fod wedi diddymu'r polisi 100 mlynedd. Ond mae gwybodaeth personol a roddir yn gyfrinachol, os gall y datgeliad arwain at erlyniad llwyddiannus am dorri'r ymddiriedaeth.[4]

Mae cyfrifiad 1911 Lloegr a Chymru ar gael ar wefan www.1911census.co.uk[5] erbyn hyn, wedi ei redeg gan Findmypast.com yn gysylltiedig â'r Archifau Cenedlaethol. Cymerwyd y cyfrifiad hwn ar ddydd Sul, 2 Ebrill 1911 ac mae'n cynnwys mwy o wybodaeth na'r cyfrifiadau blaenorol.

Er mwyn osgoi gorlwytho'r system fel digwyddodd pan aeth cyfrifiad 1901 ar-lein, mae cofnodion cyfrifiad 1911 wedi cael ei ychwanegu i fas ddata'r wefan yn raddol. Gellir chwilio'r bas ddata am ddim, ond rhaid talu er mwyn gweld trawsgrifiad o'r wybodaeth sylfaenol neu gweld delwedd o'r ddogfen gwreiddiol.

Cywirdeb golygu

Mae'r cyfrifiad fel arfer yn weddol gywir, ac mae dirwy o hyd at £1,000 ar gyfer y rhai sydd ddim yn ei gwblhau. Cafodd ffurflen 2001 ei lenwi gan 94% o boblogaeth Lloegr a Chymru.[6]

Mae rhai eithriadau yn y cyfrifiadau canlynol:

  • Trefnwyd boicot o gyfrifiad 1911 gan gymdeithas swffragét Women's Freedom League. Roeddent yn hybu merched i fynychu partïon drwy'r nos neu aros mewn tai ffrindiau er mwyn osgoi'r cyfrifiad.
  • Osgôdd rhai pob gyfrifiad 1911 rhag ofn byddai'r llywodraeth yn ei ddefnyddio i orfodi pobl i dalu'r treth pleidlais. Amcangyfrifwyd i hyd at miliwn o bobl beidio llenwi ffurflen cyfrifiad 1991.[7]

2001 golygu

Er fod cyfrifiad 1851 wedi cynnwys cwestiwn ynglŷn â crefydd ar daflen ar wahân, nid oedd yn orfodol llenwi hwn, cyfrifiad 2001 oedd y cyntaf i ofyn cwestiynau am grefydd ar y prif ffurflen. Cafodd deddfwriaeth newydd ei basio yn Deddf (Newid) Cyfrifiad 2000 er mwyn galluogi i'r cwestiwn gael ei ofyn, ac i'w wneud yn opsiynol i'w ateb. Cwblhaodd 390,000 o bobl yr ateb gan ddynodi eu crefydd fel Jedi Knight (mwy na Sikh, Bwdhyddion ac Iddewon), gyda rhai ardaloedd yn cofrestru 2.6% o bobl fel Jedi. Felly 'Jedi' oedd y crefydd pedwerydd mwyaf yn y wlad. Mae'n debyg ysgogwyd nifer i wneud hynny gan llythyr gadwyn a ddechreuwyd yn Seland Newydd. (Gweler: Ffenomen cyfrifiad Jedi).

Dyddiadau cyfrifiadau'r Deyrnas Unedig golygu

Blwyddyn Dyddiad Nodiadau Cwestiynau newydd
1801 10 Mawrth Cyfrif y nifer o bobl oedd rhain yn bennaf, ychydig iawn o ffurflenni sy'd goroesi.
1811 27 May Cyfrif y nifer o bobl oedd rhain yn bennaf, ychydig iawn o ffurflenni sy'd goroesi.
1821 28 May Cyfrif y nifer o bobl oedd rhain yn bennaf, ychydig iawn o ffurflenni sy'd goroesi.
1831 30 May Cyfrif y nifer o bobl oedd rhain yn bennaf, ychydig iawn o ffurflenni sy'd goroesi.
1841 6 Mehefin Enw. Oed (i'r 5 mlynedd agosaf ar gyfer pawb drost 15). Galwedigaeth. Os cawsont eu geni yn y sir ai peidio.
1851 30 Mawrth Perthynas i'r pen-teulu. Sefyllfa priod. Lle geni. Os oeddent yn ddall, fyddar neu'n fud.
1861 7 Ebrill
1871 2 Ebrill Os oeddent yn ynfytyn, gwirionyn neu'n wallgofddyn.[8]
1881 3 Ebrill
1891 5 Ebrill Os oeddent yn gyflogwr, yn gyflogedig neu nid y naill na'r llall. Nifer o ystafelloedd ag aneddwyd gan y teulu os oedd yn llai na 5. Iaith a siaradwyd (yng Nghymru yn unig)[9]
1901 31 Mawrth Os oeddent yn gyflogwr, yn gyflogedig neu'n gweithio i hwy eu hunain. Os oeddent yn gweithio o gartref ai peidio. Iaith a siaradwyd, heb gynnwys plant dan 3 (yng Nghymru yn unig)[10]
1911 2 Ebrill Faint mor hir oedd y cwpl wedi bod yn briod. Faint o blant oedd wedi cael eu geni'n fyw, faint oedd dal yn fyw a faint oedd wedi marw. Diwydiant neu wasanaeth yr oedd y cyflogedig yn gysylltiedig âg.
1921 19 Mehefin
1931 26 Ebrill Dinistrwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd
1939 29 Medi National Registration Act 1939.[11] Dim cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
1951 8 Ebrill
1961 23 Ebrill
1971 25 Ebrill
1981 5 Ebrill
1991 21 Ebrill Grŵp ethnig[12]
2001 29 Ebrill Y cwestiwn cyntaf am grefydd i gael ei gynnwys ar y brif ffurflen (Lloegr, Cymru a'r Alban)
2011 27 Mawrth Yr opsiwn i lewni'r ffurflen ar-lein.[13] Yr opsiwn i ddynodi cenedligrwydd Cymreig yn dilyn beirnidaeth hallt pan na gynhwyswyd yn 2001.[14] Cwestiynau ynglŷn â partneriaeth sifil. Mae cwestiynau newydd yn cynnwys gofyn i ymfudwyr pryd gyrrhaeddont yn y wlad a pha mor hir maent yn bwriadu aros, yn ogystal â gofyn pa pasportau mae pawb yn eu dal.[15]
2021 21 Mawrth 'Cyfrifiad digidol yn gyntaf' gyda'r nod o'r mwyafrif o'r cyfifiad yn cael ei gwblhau ar-lein.[16] Nid yw'r cyfrifiad yn cael ei wneud yn yr Alban yn 2021 ond yn 2022 yn lle oherwydd y pandemig COVID-19. Cwestiwn yn gofyn a yw ymatebwyr wedi bod yn y lluoedd arfog o'r blaen; Cwestiwn gwirfoddol i 16 oed a hŷn am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Yn ogystal, ar gyfer 16 oed a throsodd roedd cwestiwn gwirfoddol ynghylch a yw ymatebwyr yn nodi fel eu rhyw a neilltuwyd ar gyfer genedigaeth, er bod hyn yn wahanol i'r cwestiwn gorfodol am ryw'r ymatebwyr. [17]

Cyfeiriadau golygu

  1. ESRC Census Programme, About census.ac.uk Archifwyd 2010-02-23 yn y Peiriant Wayback.
  2. Vision of Britain, Reports of the 1966 Census
  3. Hansard, HC Deb 16 December 1963 vol 686 cc850-3 Archifwyd 2009-07-11 yn y Peiriant Wayback.
  4. Freedom of Information Act 2000, Section 41 [1] Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback.
  5. [2]
  6.  2001 Census: The Quality of the results.
  7. The Independent. 'Missing million' indicates poll tax factor in census Archifwyd 2010-01-29 yn y Peiriant Wayback., 17 Hydref 1992
  8. Census - ScotlandsPeople
  9. Image of 1891 census from Ancestry.co.uk
  10. Image of 1901 census from Ancestry.co.uk
  11. National Registration Act, 1939. Rootsweb.com. URL accessed 1 Mawrth 2008.
  12. Population Trends, No. 72, Summer 1993. 12-17[dolen marw]
  13. Traditional census 'is obsolete'. The Guardian. June 5, 2008
  14.  2011 census form to include Welsh tick-box. WalesOnline (12 Rhafgyr 2008).
  15.  Next census aims to map migrant populations. The Independent (11 Rhafgyr 2008).
  16. "Ynglŷn â'r cyfrifiad: Ynglŷn â Chyfrifiad 2021". Cyfrifiad 2021. Cyrchwyd 2021-02-13.[dolen marw]
  17. Barton, Cassie (2021-02-13) (yn en-GB). Preparing for the 2021 census (England and Wales). https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/cbp-8531/.

Dolenni allanol golygu