Horace Walpole
llenor Seisnig, hanesydd celf, llenor, hynafiaethydd a gwleidydd Chwigaidd (1717-1797)
Hanesydd celf, gwleidydd, llythyrwr a hynafiaethydd o Loegr oedd Horatio Walpole, 4ydd Iarll Orford, neu Horace Walpole fel yr adwaenir ef gan amlaf (24 Medi 1717 - 2 Mawrth 1797). Bellach caiff ei gofio am Strawberry Hill sef y cartref a adeiladodd yn Twickenham, de-orllewin Llundain lle adfywiodd yr arddull Gothig rai degawdau'n gynt na'i olynwyr Fictoriaidd, ac am ei nofel Gothig The Castle of Otranto. Yn ogystal a'r llyfr hwnnw, mae'n nodedig hefyd am ei Lythyrau, sydd o ddiddordeb cymdeithasol a gwleidyddol. Roedd hefyd yn fab i Syr Robert Walpole ac yn gefnder i'r Arglwydd Nelson.
Horace Walpole | |
---|---|
Ffugenw | Onuphrio Muralto |
Ganwyd | 24 Medi 1717 Llundain |
Bu farw | 2 Mawrth 1797 Llundain |
Man preswyl | Strawberry Hill House |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, hunangofiannydd, gwleidydd, casglwr celf |
Swydd | Aelod o 11eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 9fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 10fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 12fed Senedd Prydain Fawr |
Adnabyddus am | The Castle of Otranto |
Arddull | llenyddiaeth Gothig |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Tad | Robert Walpole |
Mam | Catherine |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |