Nofel Gothig
Math o nofel sydd yn ymwneud â'r arswyd a'r angau, ac yn aml rhamant, yw nofel Gothig, sydd yn enwedig yn cynnwys themâu'r macâbr, y ffantastig, a'r goruwchnaturiol. Bu'n ffurf boblogaidd ar ffuglen, yn enwedig yn Lloegr yn y 18g a'r 19g. Lleolir y nofel Gothig glasurol mewn castell dirgel neu dŷ bwgan, ynghanol mynwentydd ac adfeilion mynachlogydd, neu ar diroedd gwyllt, pictiwrésg, a phortreadir cymeriadau ar ffo drwy goridorau dryslyd a thwneli tanddaearol, yn archwilio ar hyd furiau a grisiau cerrig, ac yn canfod cudd-baneli a thrapddorau.[1][2]
Math o gyfrwng | novel genre, literary genre by form |
---|---|
Math | nofel ffantasi, llenyddiaeth Gothig |
Awgrymai isdeitl y nofel Gothig gyntaf, The Castle of Otranto: A Gothic Story (1764) gan Horace Walpole, estheteg ganoloesol, gan ddwyn i'r meddwl yr hen bensaernïaeth Gothig. Yn ddiweddarach yn y 18g daeth yr enw "Gothig" i bwysleisio elfennau'r macâbr yn y fath ffuglen, ac heb o reidrwydd adeiladau Gothig na themâu canoloesol ymhlyg ei ystyr. Bu'r nofel Gothig Saesneg ar ei hanterth yn y 1790au a dechrau'r 1800au, ac ymhlith olynwyr Walpole bu Matthew Gregory Lewis (The Monk, 1796), C. R. Maturin (Melmoth the Wanderer, 1820), William Thomas Beckford (Vathek, 1786), Ann Radcliffe (A Sicilian Romance, 1790; The Mysteries of Udolpho, 1794; The Italian, 1797), a Mary Shelley (Frankenstein, 1818). Dangosai'r garfen hon o awduron fedr wrth gyflwyno technegau a motiffau newydd i'r genre, gan lunio straeon llawn arswyd ac iasoer. Un o'r prif nofelwyr Gothig o Unol Daleithiau America yn y cyfnod hwn oedd Charles Brockden Brown. Câi'r nofel Gothig ei gwatwar gan Thomas Love Peacock yn ei nofelau dychanol Nightmare Abbey (1818) a Gryll Grange (1861).[1] Trosglwyddwyd y Gothig i ieithoedd eraill yn y cyfnod Rhamantaidd, er enghraifft yn straeon Almaeneg E. T. A. Hoffmann.
Un o'r nofelwyr Gothig nodedig yng nghanol y 19g oedd y Gwyddel Sheridan Le Fanu. Diflannodd y nofel Gothig glasurol wrth iddi gael ei throi'n barodi, ond cafodd ddylanwad mawr ar sawl genre arall, gan gynnwys y stori ysbryd, y nofel dditectif, a ffuglen arswyd. Ceir elfen o'r Gothig trwy gydol hynt llên Lloegr yn y 19g, gan gynnwys gweithiau'r chwiorydd Brontë—yn enwedig Villette (1853) gan Charlotte Brontë—a nifer o nofelau Charles Dickens. Tynnai'r Americanwr Edgar Allan Poe yn gryf ar y Gothig yn ei straeon dirgel ac arswyd. Esiampl hwyr o'r nofel Gothig yw Dracula (1897) gan Bram Stoker.
Blodeuai'r genre yn yr 20g ar ffurf y stori arswyd boblogaidd. Cydnabuwyd elfennau'r Gothig hefyd, gan y beirniaid, mewn nofelau a straeon byrion William Faulkner, Carson McCullers, John Gardner, Joyce Carol Oates, Cormac McCarthy, Diane Johnson, Emma Tennant, ac Angela Carter.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), tt. 411–12.
- ↑ (Saesneg) Gothic novel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2021.
Darllen pellach
golygu- Matthew Gibson, The Fantastic and European Gothic: History, Literature and the French Revolution (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).
- Jarlath Killeen, Gothic Literature 1825–1914 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2009).
- Royce Mahawatte, George Eliot and the Gothic Novel: Genres, Gender, Feeling (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).
- Maria Purves, The Gothic and Catholicism: Religion, Cultural Exchange and the Popular Novel, 1785–1829 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2007).
- Jeffrey Andrew Weinstock, Charles Brockden Brown (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011).