L'Hospitalet de Llobregat
(Ailgyfeiriad o Hospitalet de Llobregat)
Dinas yng Nghatalwnia yw L'Hospitalet de Llobregat (Sbaeneg: Hospitalet de Llobregat). Saif yn Nhalaith Barcelona, ar lan afon Llobregat. Gyda phoblogaeth o 253,782 yn 2008, hi yw ail ddinas Catalwnia o ran poblogaeth, ar ôl Barcelona. Mae dwysder y boblogaeth yn 21,174 o drigolion y km sgwar, un o'r ffigyrau uchaf yn Sbaen ac yn Ewrop.
Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Llobregat |
Prifddinas | L'Hospitalet de Llobregat |
Poblogaeth | 274,455 |
Pennaeth llywodraeth | David Quirós Brito |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Tuzla, Baiona |
Nawddsant | Eulàlia de Barcelona |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Barcelonès, Talaith Barcelona |
Gwlad | Catalwnia |
Arwynebedd | 12.4 km² |
Uwch y môr | 8 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Llobregat |
Yn ffinio gyda | Barcelona, El Prat de Llobregat, Cornellà de Llobregat, Esplugues de Llobregat |
Cyfesurynnau | 41.3589°N 2.0992°E |
Cod post | 08900–08909 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer y Dref |
Pennaeth y Llywodraeth | David Quirós Brito |
Ymddengys enw gwreiddiol y ddinas, Provençana, yn y 10g. TYfodd y ddinas bresennol o'r 12g ymlaen, o gwmpas eglwys Santa Eulalia de Provençana a'r Hospital de la Torre Blanca. Tyfodd y boblogaeth yn fawr yn y 1960au a'r 1970au, gyda llawer o fewnfudwyr o rannau eraill o Sbaen.