Howard Winstone
Paffiwr o Gymru fu'n bencampwr pwysau plu y byd oedd Howard Winstone (15 Ebrill 1939 - 30 Medi 2000).
Howard Winstone | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1939 Merthyr Tudful |
Bu farw | 30 Medi 2000 Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | paffiwr |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed Winstone ym Merthyr Tydfil. Wedi iddo ennill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958, daeth yn baffiwr pwysau plu proffesiynol. Eddie Thomas oedd ei reolwr. Enillodd bob un o'i 34 gornest gyntaf, gan ddod yn bencampwr Prydain yn 1961, ac wedyn yn bencampwr Ewrop. Methodd yn ei dair ymgais gyntaf i ddod yn bencampwr y byd; cafodd ei guro dair gwaith gan y pencampwr Vicente Saldivar, ond ar y pedwaredd cynnig gorchfygodd Mitsunori Seki o Japan ym mis Mehefin 1968. Collodd ei deitl i Jose Legra mewn gornest ym Mhorthcawl ychydig fisoedd wedyn, a chyhoeddodd ei ymddeoliad.
Enwyd ef fel Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 1963. Yn 2005, curodd Owen Money, Richard Trevithick, Joseph Parry a'r Arglwyddes Charlotte Guest am y teitl "Dinesydd Mwyaf Merthyr Tydfil" mewn pleidlais gyhoeddus.
Gweler hefyd
golygu- Pencampwyr bocsio y byd o Gymru
- Reaching for the Stars gan Brian Hughes; cyhoeddwyd 2009
Gwobrau | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Dai Rees |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1958 |
Olynydd: Graham Moore |
Rhagflaenydd: Ivor Allchurch |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1963 |
Olynydd: Lynn Davies |
Rhagflaenydd: Lynn Davies |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1967 |
Olynydd: Martyn Woodroffe |