Ivor Allchurch

pêl-droediwr

Pêl-droediwr Cymreig oedd Ivor John Allchurch (16 Hydref 192910 Gorffennaf 1997). Fe'i magwyd yn Abertawe. Roedd yn frawd i Len Allchurch a oedd hefyd yn nhîm Cymru.

Ivor Allchurch
FfugenwGolden Boy Edit this on Wikidata
Ganwyd16 Hydref 1929 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gynradd Plasmarl Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra1.78 metr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Dinas Caerdydd, Newcastle United F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, C.P.D. Dinas Abertawe, Shrewsbury Town F.C., Worcester City F.C. Edit this on Wikidata
Safleblaenwr, mewnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Ivor Allchurch
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1947–1958Tref Abertawe327(124)
1958–1962Newcastle United143(46)
1962–1965Dinas Caerdydd103(39)
1965–1968Tref Abertawe118(40)
Cyfanswm691(249)
Tîm Cenedlaethol
1950–1966Cymru68(23)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Chwaraeodd rôl bwysig fel ymosodwr i sicrhau bod Cymru'n cyrraedd yr wyth olaf yng nghystadlaeaeth Cwpan y Byd Pêl-droed 1958, a dyma hefyd pan y daeth i amlygrwydd yn gyntaf. Cafodd 68 cap dros ei wlad, record hyd at 1986, pan gafodd ei dorri gan Joey Jones.[1] Ef hefyd oedd sgoriwr y nifer mwyaf o goliau dros Gymru: 28 gôl, a thorrwyd y record yma'n ddiweddarach gan Ian Rush.

Cychwyn arni

golygu

Yn 1947, cychwynodd ei yrfa bêl-droed yn nhref ei eni - Abertawe, ond byr iawn y parhaodd yno oherwydd y cafodd ei alw i'r fyddin. Ei dymor cyntaf, mewn gwirionedd, oedd 1950–51. Chwaraeodd 445 gwaith i Abertawe gan sgorio 164 o goliau.

 

Ymunodd â Newcastle United yn 1958 am £28,000.[2] Yn Awst 1962 symudodd i Gaerdydd gan sgorio yn ei gêm gyntaf - yn erbyn Newcastle United![1] Y tymor hwnnw (1963–64), ef oedd sgoriwr ucha'r Clwb ac felly hefyd y tymor dilynol (1964–65). Ar ddiwedd tymor 1967–68 ymunodd gyda Worcester City. Ac yna, am ysbaid, bu'n rheolwr-chwaraewr gyda Hwlffordd gan orffen ei yrfa'n chwarae i Bontardawe - yn 0 oed. Dros ei yrfa roedd wedi chwarae 691 o gemau'r Gynghrair ac wedi sgorio 249 o goliau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Hayes, Dean (2006). The Who's Who of Cardiff City. Breedon Books. ISBN 1-85983-462-0.
  2. Jones, Ken (12 Gorffennaf 1997). "Obituary: Ivor Allchurch". London: The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-16. Cyrchwyd 2010-05-06.