Hugh Carter
Gweinidog Wesleaidd oedd Hugh Carter (1784 – 8 Medi 1855), ganwyd yn ardal yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Hugh Carter | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mehefin 1784 Cymru |
Bu farw | 8 Medi 1855 Northwich |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, cenhadwr |
Magwraeth
golyguPan oedd yn ifanc iawn, symudodd ei rieni, Henry Carter a'i wraig, i fyw i dref Dinbych yn Nyffryn Clwyd. Methodistiaid oeddynt a byddai gweinidogion Cymraeg ar gylchdaith Caer yn pregethu'n rheolaidd yng nghartref y teulu. O'r cefndir hwn y daeth Carter, ac ar ôl cychwyn pregethu gyda'r Wesleiaid yn 1802, fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn 1805.
Cenhadu ym Manceinion a Llundain
golyguTeithiodd drwy Gymru gan barhau i bregethu yn y Gymraeg am ddeng mlynedd. Yna, yn 1816 dechreuodd bregethu'n y Saesneg ac felly y parhaodd i wasanaethu'r eglwys am bedwar deg mlynedd yn Lloegr a Chymru. Ef oedd y cenhadwr Cymraeg cyntaf a ddanfonwyd i Fanceinion, ac ef hefyd fu'n bennaf gyfrifol am adeiladu capel Cymraeg Wesleaidd cyntaf Llundain. Cyfrannodd i'r cylchgrawn enwadol Yr Eurgrawn Wesleaidd yn 1929, a cheir ynddo ysgrifau pwysig ynghylch hanes cynnar yr eglwys honno. Treuliodd ddwy flynedd hefyd ar gylchdaith Wellington, Swydd Amwythig, ac o'r cyfnod hwnnw bu'n llythyru á'r efengyles Mary Tooth. Erbyn Cynhadledd Flynyddol y Wesleiaid yn 1854 fodd bynnag, aeth yn uwchrif, ac yn fuan wedyn bu farw yn yr Heledd Ddu (Northwich), Swydd Gaer, ar 8 Medi 1855.
Cyfeiriadau
golygu- A. H. Williams, Welsh Wesleyan Methodism, 1800-1858 its origins, growth and secessions, 1935
- Hugh Jones, Hanes Wesleyaeth Gymreig, 1911-3, i, 341-2
- The Minutes of the Annual Conference Methodist Church, xiii, 194
- Thomas Morgan, Enwogion Cymreig (1700-1900), 1907