Hugh Owen (cynllwynwr Catholig)
Cynllwynwr Catholig yn erbyn llywodraeth Brotestannaidd Elisabeth I, brenhines Lloegr, ac yna Iago VI/ I oedd Hugh Owen (1538 - 30 Mai 1618).[1]
Hugh Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1538 |
Bu farw | 30 Mai 1618 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Perthnasau | John Owen |
Roedd yn fab i Owen ap Gruffudd a'i wraig Margaret, Plas Du, Llanarmon, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn Lincoln's Inn, Llundain a bu yng ngwasanaeth Henry Fitzalan, 12fed iarll Arundel. Roedd gyda Fitzalan a Humphrey Llwyd yn Augsburg yn 1566. Bu a rhan mewn cynllwyn ar ran Mari I, brenhines yr Alban yn 1571, a bu raid iddo ffoi i Sbaen ac yna Brwsel.
Treuliodd tua 40 mlynedd yn yr Iseldiroedd, oedd yr adeg honno dan lywodraeth Sbaen, yn derbyn pensiwn gan frenin Sbaen. Bu ganddo ran mewn nifer o gynllwynion yn erbyn llywodraeth Elizabeth, ac wedi i Iago I ddod yn frenin Lloegr, bu ganddo ran yng Nghynllwyn y Powdwr Gwn. Ef a ddaeth ag arweinydd y cynllwyn, Robert Catesby, i gysylltiad a Guy Fawkes.
Gwnaeth y llywodraeth Seisnig nifer o ymdrechion i gael gafael arno, ond heb lwyddiant. Yn 1610 ymddeolodd i'r Coleg Seisnig yn Rhufain, a bu farw yno yn 1618. Roedd John Owen yr epigramydd yn nai iddo.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Honourable Society of Cymmrodorion (London, England) (2008). The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (yn Saesneg). The Society. t. 37.