Hugh Williams (Cadfan)
Argraffydd a newyddiadurwr oedd Hugh Williams (1807 – 11 Gorffennaf 1870). Daeth yn enwog fel ysgrifennwr talentog ac amddiffynnydd yr Eglwys, ac roedd yn ysgrifennu o dan y ffugenw Cadfan.[1]
Hugh Williams | |
---|---|
Ffugenw | Cadfan |
Ganwyd | c. 1807 Bryn-crug |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1870 Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | argraffydd, newyddiadurwr |
Bywyd
golyguCafodd ei eni ym Mryncrug, ger Tywyn, yn Sir Feirionnydd. Roedd o wedi gwneud prentisiaeth o dan yr argraffydd o Ddolgellau Richard Jones cyn dechrau argraffu a golygu papur Eglwys Loegr o'r enw Y Cymro yn Ionawr 1848. Trosglwyddodd perchenogaeth y papur i Mr. Shone yn 1849 ond parhaodd i olygu'r papur tan Hydref 1850. Ar ôl hyn, aeth Cadfan i Lundain. Roedd yn ffrind i John Jones (Talhaiarn) a William Jones (Gwrgant) ac roedd yn gweithredu fel ysgrifennydd i'r 'Cronfa Blwydd-dâl Talhaiarn’ yn ystod 1863 i 1865. Roedd o hefyd yn warden yr Eglwys Anglicanaidd Cymraeg yn Llundain am lawer o flynyddoedd. Yn 1870, roedd o wedi cael ei dewis fel golygydd cyntaf o bapur Eglwys Cymraeg, Y Dywysogaeth, a oedd yn cael ei chyhoeddi yn Rhyl.
Bu farw yn 1870.
Ffynonellau
golygu- Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties, 1897, 45, 64, a 162-3;
- Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the *present (1908);
- T. M. Jones, Llenyddiaeth fy Ngwlad (1893), 20;
- Yr Haul, 1870, 256;
- Baner ac Amserau Cymru, 20 Gorffennaf 1870;
- Cardiff Free Libraries: Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department (1898), 517;
- NLW MSS 4511, 9276 (431).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "WILLIAMS, HUGH ('Cadfan'; 1807? - 1870), argraffydd a newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-22.