John Jones (Talhaiarn)

bardd a phensaer


Bardd yn y Gymraeg a'r Saesneg ac arolygydd pensaernïol oedd Talhaiarn, sef enw barddol John Jones (19 Ionawr 18107 Hydref 1869). Yn ystod ei oes bu'n fardd poblogaidd, yn enwedig am ei ganeuon,[1] ond yn ffigwr dadleuol yn sgil sawl dadl gyhoeddus ar nifer o bynciau.[1] Methiant fu pob ymgais ganddo am brif wobrau'r Eisteddfod, fodd bynnag ystyrir ef bellach ymhlith y gorau o feirdd telynegol yr 19g,[2][3] ac yn ffigwr pwysig o ran Rhamantiaeth yn y Gymraeg, a hanes cerdd dant.[4][5]

John Jones
Talhaiarn (1850), gan William Roos.
FfugenwTalhaiarn Edit this on Wikidata
GanwydJohn Jones Edit this on Wikidata
19 Ionawr 1810 Edit this on Wikidata
Llanfair Talhaearn Edit this on Wikidata
Bu farwHydref 1869 Edit this on Wikidata
Llanfair Talhaearn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, bardd Edit this on Wikidata
MamGwen Jones Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Bywyd Cynnar

golygu

Ganwyd Talhaiarn ym mhentref Llanfair Talhaearn, Sir Conwy (Sir Ddinbych yn amser Talhaiarn), yn nhafarn yr Harp,[6] sydd bellach yn dŷ preifat.

Eglwyswyr oedd ei rieni: ei fam yn dafarnwraig a'i dad yn saer coed. Adeg plentyndod Talhaiarn roedd Llanfair ar ffordd y porthmyn o ogledd Cymru i farchnadoedd Lloegr, ac roedd y dafarn yn lle bywiog a phrysur.[7] Byddai Beirdd Gwlad a cherddorion yn mynychu'r dafarn yn rheolaidd i ganu penillion ac adrodd eu barddoniaeth, ac amgylchynwyd y bardd ifanc gan ganeuon a diwylliant gwerinol Cymru.

 
Castell Gwrych

Derbyniodd addysg gymharol dda yn ôl safonau'r oes yn yr ysgolion lleol, cyn dilyn ei dad i'r fasnach adeiladu, a dod yn brentis i Bensaer.[6] Cyn cyrraedd ei ugain oed roedd eisoes yn gweithio ar adeiladau crand megis Castell Gwrych a Pool Park yn Rhuthun. Dangosodd dalent cynnar fel canwr yn nhafarndai'r ardal, er na chafod unrhyw fath o hyfforddiant cerddorol proffesiynol ar unryw adeg yn ei oes.[8] I'r cyfnod hwn mae ei gyfansoddiadau barddonol cynharaf yn perthyn.

 
Pool Park, Rhuthun

Treuliodd yr 1830au yn gweithio ar dai a phontydd yn yr ardal, yn magu ei allu fel arolygwr gwaith adeiladu tra'n dal ati i ganu a barddoni; erbyn diwedd yr 1830au roedd cerddi a chaneuon o'i eiddo'n dechrau ymddangos mewn rhai o bapurau newydd y cyfnod. Ymddangosodd ei enw barddol mewn print am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1835; nid oes tystiolaeth o unrhyw fath o urddo barddonol ac ymddengys mai ef ei hun a ddewisodd yr enw a'r sillafiad.[9] Barddonai yn Saesneg hefyd, ac aeth ati hefyd i lunio cyfieithiadau o waith beirdd Saesneg fel Byron, Thomas Moore a Walter Scott.[10] Cyfarfu â Gwallter Mechain, a ddysgodd elfennau'r gynghanedd iddo.[11]

Llundain

golygu

Yn 1843 derbyniodd Talhaiarn swydd yn Llundain gyda'r penseiri W. B. Moffat a Gilbert Scott,[12] a byddai'n treulio'r mwyafrif o weddill ei oes yn alltud o Gymru, gan ddychwelyd yn achlysurol ar wyliau neu er mwyn cystadlu mewn Eisteddfodau. Gwaith yn adeiladu neu'n adfer eglwysi oedd prif faes ei gyflogwyr newydd,[6] yn Llundain yn aml, ond anfonwyd Talhaiarn hefyd am gyfnodau i weithio ar eglwysi yn Nottingham a rhannau eraill o Loegr.[13]

Pan yn Llundain bu Talhaiarn yn aelod amlwg a phoblogaidd o'r Cymreigyddion, gan ddod yn ysgrifennydd ar y sefydliad. Roedd galw mawr am ei ddoniau cerddorol yng nghyfarfodydd y gymdeithas, ond hefyd am ei farn: traddododd nifer o ddarlithoedd ar bynciau llenyddol a gwleidyddol. Drwy gyfrwng y Cymreigyddion daethai Talhaiarn i gyswllt â rhai o Gymry amlwg y ddinas, gan gynnwys beirdd eraill a cherddorion fel Owain Alaw, telynor byddai'n cyd-berfformio a chydweithio ag ef yn aml dros y blynyddoedd nesaf.[14][15] Byddai'r gymdeithas yn cwrdd mewn tafarndai ac roedd Talhaiarn yn magu enw fel gloddestwr: cyhoeddwyd englynion gan un o'i gyd-aelodau yn 1846 yn ei gynghori i roi'r gorau i ddiota.[16] Mewn englyn o'i eiddo ei hun yn ddyddiedig i 1847 ceir hefyd ei gyfeiriad cyntaf at y gymalwst (gowt), cyflwr a gysylltir â gor-yfed a diet gwael, ac a fyddai'n ei blagio am weddill ei oes.[17]

Helyntion Eisteddfod Aberffraw, 1849

golygu

Erbyn diwedd yr 1840au roedd Talhaiarn eisoes yn adnabyddus fel bardd poblogaidd yn y wasg Gymraeg, ond nid oedd eto wedi profi llwyddiant barddonol o bwys mewn Eisteddfod. Pan ymgeisiodd am gadair Eisteddfod Aberffraw yn 1849 gyda'i awdl ar Y Greadigaeth - un yn unig o bum cystadleuaeth yn yr un Eisteddfod iddo ymgeisio ynddynt y flwyddyn honno[18] - roedd yn hyderus o'i fuddugoliaeth, a thalodd yn ddrud i rwymo'r llawysgrif mewn lledr hardd ac addurno llythrennau cyntaf yr adrannau yn null llawysgrifau'r oesoedd canol.[19]

Arweinodd y gsytadleuaeth hon at ddadl fawr gyhoeddus yn sgil anghytundeb rhwng Eben Fardd, y cadeirydd, a'r beirniaid eraill ynghylch pa un ai awdl Nicander (fu'n fuddugol) ai Emrys oedd orau.[20] Roedd beirniadaeth Eben Fardd o awdl Talhaiarn yn ddamnïol a gosodwyd ei awdl yn yr ail ddosbarth; ymateb y Talhaiarn siomedig oedd strancio'n gyhoeddus a rhwygo'r llawysgrif cain yn ddarnau. Yn ôl Llew Llwyfo digwyddodd y rhwygo ar y llwyfan o flaen y gynulleidfa,[21] er bod tystion eraill yn awgrymu i Dalhaiarn ymneilltuo i ben clawdd cyn gwneud.[22]

Er gwaethaf rhai rhinweddau roedd awdl Talhaiarn yn frith o wallau cynganeddol a theg oedd y feirniadaeth ohoni ar y cyfan;[23] yng ngeiriau ei cofiannydd, aeth Talhaiarn ati "i gystadlu ar awdl pan oedd prin wedi ymarfer y gynghanedd, heb sôn am ei feistroli."[24] Daeth Talhaiarn i edifarhau ei ymateb orffwyll ymhen ychydig ddyddiau; gan fynegi edifarhâd ac ymddiheuro'n gyhoeddus am ei ymddygiad. Cymododd ag Eben Fardd yn y pen draw a daeth y ddau'n gyfeillion, gan gyfnewid llythyrau nes marwolaeth Eben yn 1863.[25] Yn hytrach na dwyn anfri ar ei enw, mae'n debyg i'r helynt godi proffil Talhaiarn fel bardd ac ychwanegu at ei enwogrwydd.[26]

Gyda Jospeh Paxton yn Lloegr a Ffrainc

golygu
 
Mentmore Towers, Swydd Buckingham

Gadawodd Talhaiarn Moffat Scott am waith gyda'r Pensaer enwog Joseph Paxton yn 1851. Yn rhinwedd ei gyflogaeth gyda Paxton cyfrannodd at adeiladu rhai o dai preifat mwyaf ysblennydd yr oes gan gynnwys Mentmore Towers yn Swydd Buckingham a Château de Ferrières yn agos i Paris, y ddau dŷ ar ran eu cleientiaid, yr Americanwyr cyfoethog y Teulu Rothschild. Gyda Paxton hefyd bu'n rhan o adeiladu y Palas Grisial yn Llundain.[6]

Daliodd enwogrwydd Talhaiarn fel bardd i dyfu. Yn 1855 gwelwyd cyhoeddi'r gyfrol gyntaf o Waith Talhaiarn. Ysgrifennodd hefyd nifer fawr iawn o ganeuon ar gomisiwn i gerddorion fel Pencerdd Gwalia ac Owain Alaw a chyhoeddwyd nifer o'r rhain. I'r cyfnod hwn hefyd perthyn un o'i weithiau mwyaf adnabyddus, Tal ar Ben Bodran, cerdd hir (neu gyfres o gerddi) gyda rhannau o ryddiaith yn eu cysylltu ar ffurf trafodaethau hir rhwng Talhaiarn a'r awen ar ystod o faterion; dechreuodd ymddangos yn 1852.

Golygai'r gwaith ar Château de Ferrières bod rhaid i Dalhaiarn symud i Ffrainc am nifer o flynyddoedd yn dechrau yn 1855, ffaith a amharodd ar ei allu i fynychu eisteddfodau. Daliodd ati fodd bynnag i gyfrannu'n rheolaidd at y wasg yng Nghymru. Roedd ei safbwyntiau'n aml yn mynd yn groes i raen a rhagfarnau ei gymdeithas: mewn oes pan bwysleisiwyd parchusrwydd, sobreiddrwydd a duwioldeb, plediai Talhaiarn achos miri, hwyl, serch a chân.[27]

Eisteddfod Abertawe, 1863

golygu

Wedi dychwelyd i Loegr, cyhoeddwyd ail gryfol o Gwaith Talhaiarn yn 1862. Y flwyddyn ganlynol, bu unwaith eto'n destun helynt Eisteddfodol yn sgil ymdrech aflwyddiannus arall am gadair Eisteddfodol. Testun awdl Eisteddfod 1863 yn Abertawe oedd y diweddar Dywysog "Albert Dda"; ac roedd ar un o'r ddau feirniad, Clwydfardd, eisiau cadeirio Talhaiarn tra bod y llall, Iago Emlyn, yn ffafrio ymdrech Gwalchmai. Gwilym Hiraethog oedd y canolwr ac roedd i fod i ddewis rhwng awdlau dethol y ddau pe na bai'r beirniaid yn unfarn; fodd bynnag heb yn wybod i Clwydfardd aeth Iago Emlyn yn syth at Hiraethog gyda phum awdl gwahanol: dewisodd Hiraethog awdl Emrys ac newidiodd Iago Emlyn ei ddewis i gyd-fynd gyda barn Hiraethog, gan wneud cam â Thalhaiarn felly.[28] Credai Talhaiarn fod y beirniaid anghydffurfiol yn cynllwynio yn ei erbyn fel eglwyswr,[1] ac er nad hyn o reidrwydd oedd cymhelliad y beirniaid yn sicr roedd Talhaiarn wedi cael cam. Esgorodd yr helynt ar ddadlau ffyrnig unwaith eto yn y wasg, gydag eraill yn cyfrannu i amddiffyn neu feirniadu'r penderfyniad.[29]

Cystudd olaf a Marwolaeth

golygu
 
Talhaiarn tua 1865; (llun gan John Thomas)

Erbyn ail hanner yr 1860au roedd iechyd Talhaiarn yn mynd yn gynyddol wael. Roedd y gymalwst wedi gwneud ysgrifennu'n gorfforol boenus a'i rwystro rhag parhau i weithio; cafodd lawdriniaeth hefyd ar ei bledren yn 1864 a byth ers hynny dioddefai o byliai o boenau enbyd trwy ei gorff. Aethpwyd ati'n llwyddiannus i drefnu cronfa gyhoeddus i roi pensiwn i Talhaiarn yn ystod 1863-5,[30] ond nid ystyriodd Talhaiarn y swm o £41 y flwyddyn yn ddigon i fyw arni ac ysgrifennodd at y Prif Weinidog Torïaidd Benjamin Disraeli yn gofyn am bensiwn gwladol, gan grybwyll ei gefnogaeth di-flino i geidwadaeth hyd ei oes; ond bu'r cais yn aflwyddiannus.[31]

c.1875
Mai 2016

Ni briododd Talhaiarn erioed ac ar ôl bron i chwarter canrif yn alltud, yn 1866 dychwelodd i Gymru'n barhaol a symud i fyw at ei chwaer yn nhafarn yr Harp, sef y tŷ lle'i ganed, oedd bellach yn dwyn yr enw Hafod y Gân. Yn 1868, y flwyddyn cyn ei farw, daeth iddo rywfaint o lwyddiant Eisteddfodol o'r diwedd gyda'i bryddest Castell Rhuthun yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1868. Roedd hyn cyn ffurfioli'r drefn o wobrwyo Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am y bryddest orau mewn Eisteddfod Genedlaethol, fodd bynnag, ac dim ond un o dair o bryddestau gwobrwyedig yn yr un Eisteddfod oedd cerdd Talhaiarn.

Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn paratoi trydydd cyfrol o'i farddoniaeth, a gyhoeddwyd yn 1869; bu farw yr un flwyddyn. Yn ystod ei wythnosau olaf roedd Talhaiarn mewn poen dirfawr, mewn pruddglwyf dwfn ac yn dioddef o byliau o ddryswch ysbeidiol; roedd yn argyhoeddedig ei fod ar farw. Awgrymir mewn sawl ffynhonnell er enghraifft y Bywgraffiadur[6] a'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru[1] mai lladd ei hun gwnaeth y bardd. Fodd bynnag, fel y disgrifir yng nghofiant Dewi M. Lloyd, er iddo wneud ymdrech i brysuro'i ddiwedd gyda llawddryll roedd yn aflwyddiannus ac ni lwyddodd i wneud mwy na brifo'i glust. Bu farw ychydig ddyddiau'n ddiweddarach beth bynnag, casgliad y cwest ar ei gorff oedd y gellid priodoli ei farwolaeth i achosion naturiol.[32] Claddwyd Talhaiarn ym mynwent y plwyf yn Llanfair Talhaearn; cynhaliwyd cystadleuaeth yn y wasg i greu englynion ar gyfer ei gofeb a naddwyd englynion yr enillydd, Islwyn, ar ei fedd, ynghŷd ag englyn arall o waith ac Aled o Fôn.[33]

Daliadau Gwleidyddol, Llenyddol a Chrefyddol

golygu

Drwy gydol ei oes roedd Talhaiarn ohebydd cyson yn y wasg Gymreig, yn ŵr oedd yn fodlon rhannu ei farn ac nad oedd ganddo ofn dynnu'n groes i'r mwyafrif.

Er nad yw'n ymddangos y bu Talhaiarn erioed yn gydwybodol iawn o ran ei crefydd, mewn egwyddor o leiaf roedd yn Eglwyswr ac yn sicr roedd yn feirniadol iawn o Anghydffurfiaeth, rhywbeth ystyriai Talhaiarn yn ddylanwad negyddol ar Gymru a'i diwylliant. Roedd yn bleidiol hefyd i'r Blaid Dorïaidd yn hytrach na'r Rhyddfrydwyr, ac roedd y ddau beth yma'n ei osod rywfaint y tu allan i brif ffrydiau athronyddol cymdeithas Cymraeg ei oes. Gwelai radicaliaeth ac anghydffurfiaeth yn agweddau ar biwritaniaeth oedd yn fygythiad i'r traddodiad barddol a cherddorol.[34] Yn wahanol i nifer fawr o feirdd Cymraeg yr 19g ychydig iawn o farddoniaeth crefyddol a geir ymhlith cerddi Talhaiarn: prif destunau ei gerddi yw "cyfeddach, rhyfel a serch".[1] Ysgrifennodd hefyd nifer o gerddi yn clodfori'r Frenhiniaeth, y Wladwriaeth Brydeinig a'i Hymerodraeth ac er nad oedd y testunau yma'n anghyffredin o gwbl yng ngwaith beirdd Cymraeg yr oes mae'r awgweddau yma'n neilltuol o gryf yng ngwaith Talhaiarn.

Chwedl cofiannydd Talhaiarn Dewi M. Lloyd, ceir nifer o anghysondebau athronyddol yn agweddau'r bardd:

"ceir gwrthebau amlwg, a nifer yn bradychu diffyg dyfynder yn yr ymresymu. Canmolai Ryddid ond dirmgai y chwyldro wrth frwydro i'w ennill: plediai ymyrraeth filwrol ar ran Prydain ond casâi ryfel a thywallt gwaed: plediai achos rhamant a sentiment ond plediai hefyd y realaeth a'r foderniaeth i sicrhau hanfodion byw a bod. Ni fynnai wedl y Gymraeg yn marw ond ni fynnai y cymhwysiad gwleidyddol i'w diogelu..."[35]

Er iddo gollfarnu Seisnigo sefydliadau fel yr Eisteddfod a mynegi y byddai'n well ganddo'n bersonol Eisteddofd uniaith Gymraeg, ac bod ei gariad at y Gymraeg ac at diwylliant Cymru yn amlwg yn ei waith, fel nifer fawr o ffigyrau Cymraeg blaenllaw'r cyfnod ni chredai fod yr iaith Gymraeg yn addas ar gyfer meysydd gwyddonol, masnachol na thechnegol, ac roedd ei ragolwg ar gyfer ei dyfodol yn besimistaidd.[36]

Gwaddol

golygu

Fel bardd

golygu

Roedd Talhaiarn yn fardd toreithiog a gyfansoddodd nifer fawr iawn o gerddi ac yn enwedig o ganeuon fu'n boblogaidd eithriadol ar y pryd, rhai o'r rhain yn adnabyddus o hyd, gan gynnwys Mae Robin yn Swil, "cân serch fwyaf poblogaidd ei oes",[1] ac Mae gen i dŷ cysurus (i'w chlywed ar Cwm Rhyd y Rhosyn Dafydd Iwan). Cyfansoddodd nifer fawr iawn o ganeuon ar gomisiwn i Owain Alaw a Phencerdd Gwalia gan gyfrannu hefyd at gyhoeddiad casgliadau o ganeuon a phenillion traddodiadol, gweithgareddau a fu'n gyfraniadau cynnar pwysig at ddatblygiad cerdd dant yn ei ffurf gyfoes. Yng ngeiriau ei gofiannydd, roedd "yn awdur cerddi poblogaidd, cofiadwy, canadwy a chenedlaethol eu hapêl".[37] Yn osgytal â'i ganeuon, ysgrifennodd libretti ar gyfer nifer o weithiau corawl gan gyfansoddwyr Cymreig fel Owain Alaw, Pencerdd Gwalia a Brinley Richards.

Er gwaetha'i ddyled i'r traddodiad brodorol o ganu penillion ac i ragflaenwyr fel Huw Morus, beirdd o'r tu allan i Gymru oedd ei brif ddylanwadau sef Robert Burns a Byron. Gwelir dylanwad y cyntaf yn ei ganeuon a'i faledi, a'r ail yn un o weithiau mwyaf adnabyddus Talhaiarn y tu allan i'r caneuon poblogaidd sef Tal ar Ben Bodran (sef, Mynydd Bodran, ger Llanfair Talhaearn). Gwaith yw hwn y mae ei genre yn anodd diffinio: cymysgedd o farddoniaeth a rhyddiaith, ar ffurf un ar hugain "Canto", pob un ohonynt yn drafodaeth rhwng y bardd a'i awen. Mae'r ddau'n trafod pynciau amrywiol megis natur bywyd a barddoniaeth, rhyfel a serch, ac yn adrodd barddoniaeth i'w gilydd ar ffurf cerddi hunangynhwysol ar amrywiaeth o fesurau. Creodd y gwaith hwn gryn dipyn o stŵr yn ei gyfnod oherwydd chwerwder awen y bardd (yn enwedig yn y Cantoau olaf) a'r syniadau anuniongred a herfeiddiol a fynegodd, ond ceir hefyd mynegiadau o frogarwch sy'n ymhyfrydu yn natur yr ardal.[38] Roedd gan Saunders Lewis farn uchel iawn o'r gyfres, a barodd iddo ddweud am y bardd, "Talhaiarn oedd yr unig fardd yn ei gyfnod a chanddo ymwybod â thrasiedi bywyd dyn, a hynny'n angerddol."[2]

Y gweithiau hyn yn y mesurau rhydd sydd fwyaf adnabyddus ac uchel eu clod heddiw. Er iddo amddiffyn dilysedd y gynghanedd mewn nifer o lythyrau i'r wasg ac ysgrifennu sawl awdl mewn ymdrech i ennill cadair Eisteddfodol, nid enillodd yr un wobr Eisteddfodol o bwys, ac er gwaetha'i duedd i brotestio ei fod yn cael cam yn sgil beirniadaethau Eisteddfodol yn ei erbyn,[1] nodweddir ei awdlau eisteddfodol gan wallau cynganeddol.[39][40] Ei lwyddiant Eisteddfodol fwyaf oedd cael ei ddyfarnu'n un o dri enillydd ar y bryddest yng Rhuthun yn 1868; roedd hyn cyn ffurfio'r drefn o wobrwyo Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ac ni choronwyd Talhaiarn; serch hynny y gorau o weithiau estynedig y bardd yw'r gerdd, Castell Rhuthun, ym marn Dewi Lloyd.[41]

Awgrymir yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru bod awydd Talhaiarn i fodloni'i gynulleidfa ac ysgrifennu'n boblogaidd wedi cael effaith andwyol ar ei farddoniaeth mwy difrifol.[1] Fodd bynnag, er gwaethaf "milltiroedd o linellau di-chwaeth ac arwynebol," ym marn R. M. Jones yn ei gerddi orau roedd Talhaiarn yn "brydydd unigryw, deallus a phrofiadol a chando air i'w ddweud am fywyd a oedd yn sobreiddiol mewn modd nas gwyddai Ceiriog."[3] Ym marn Dewi Lloyd,

...yn [Tal ar Ben Bodran], mewn ambell englyn a hyd yn oed mewn sawl telyneg fe fynegodd emosiynau dyfnaf ei brofiad - edifeirwch, hiraeth, sinigaeth ac unigrwydd. Yn ei delynegion gorau llwyddodd i gywasgu rhyw wedd ar y profiad dynol rhwng ffiniau dau neu dri phennill, ac wrth wneud hynny dangosodd sut y gallai'r delyneg hithau dyfu'n gyrwng i roi myfyrdod diffuant a hunanfynegiant dilys ar gynfas cynnil... Bu ymhlith y beirdd hynny a fu'n paratoi'r ffordd ar gyfer telynegion mwyaf gafaelgar yr ugeinfed ganrif.[42]

Ym maes pensaernïaeth

golygu
 
Eglwys Llanfihangel, Tremain

Sonir am Dalhaiarn fel pensaer (er enghraifft yn y Bywraffiadur[6]), ond dau adeilad yn unig y gwyddir â sicrwydd mai Talhaiarn a'u cynlluniodd, sef eglwys Tremain yng Ngheredigion, a thŷ preifat yn Llanfair Talhaearn.[43] Swyddogaeth Talhaiarn ar y mwyafrif o'r adeiladau y gweithiodd arno oedd "clerk of works"; sef arolygydd ar weithwyr eraill oedd yn gyfrifol am reoli'r adeiladwyr a threfnu'r gwaith o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau bod cynlluniau'r pensaer yn cael eu dilyn yn fanwl gywir (hwyrach mai'r term cyfoes fyddai "rheolwr prosiect").[44] Yn ifanc, gweithiodd ar dai mawr yng Nghymru gan gynnwys Castell Gwrych a thrwy ei waith gyda Joseph Paxton yn enwedig cyfranodd at adeiladu rhai o blasau preifat mwyaf crand yr oes. Er gwaetha'r enw roedd ganddo am loddesta, tystia'r ymddiriedaeth a ddangoswyd iddo mewn prosiectau mawr o'r fath i drylwyrdeb ac ansawdd ei waith fel arolygydd; ac yn ôl pob tystiolaeth roedd yn weithiwr medrus a chydwybodol.[45]

Llyfryddiaeth

golygu

Gweler hefyd

golygu

Ffynonellau

golygu
  • Lloyd, Dewi M. (1999). Talhaiarn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Meic Stephens (gol.) 1997, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: gWasg Prifysgol Cymru. t397
  2. 2.0 2.1 Lewis, Saunders (1981) Meistri a'u Crefft, Caerdydd. tt.271-2.
  3. 3.0 3.1 Jones, R. M. (gol.) (1988) Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Cyhoeddiadau Barddas. t.23
  4. Cerdd Dant ar Yr Esboniadur
  5. Lloyd, t. 233.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 John Jones (Talhaiarn) yn Y Bywgraffiadur Cymreig
  7. Lloyd, t. 230.
  8. Lloyd, t. 8.
  9. Lloyd, t. 12-13.
  10. Lloyd, t. 16.
  11. Lloyd, t. 13-4.
  12. Lloyd, t.20.
  13. Lloyd, t. 27.
  14. Owen, John (Owain Alaw; 1821–83) yn Yr Esboniadur
  15. Lloyd, t. 26.
  16. Lloyd, t. 29.
  17. Lloyd, t. 42.
  18. Lloyd, t. 65.
  19. Lloyd, t. 65.
  20. Ambrose, William ('Emrys'; 1813-1873) yn Y Bywgraffiadur
  21. Y Geninen xix 1901. tt219-20.
  22. Lloyd, t. 69.
  23. Lloyd, t. 68.
  24. Lloyd, t. 229.
  25. Lloyd, t. 130.
  26. Lloyd, t. 69-70.
  27. Lloyd, t. 229.
  28. Lloyd, t. 175.
  29. Lloyd, t. 176.
  30. Williams, Hugh ('Cadfan'; 1807?-1870) yn Y Bywgraffiadur
  31. Lloyd, t. 223.
  32. Lloyd, t. 226-7.
  33. Lloyd, t. 227.
  34. Lloyd, t. 229.
  35. Lloyd, t. 229.
  36. Lloyd, t. 194.
  37. Lloyd, t. 177.
  38. T. Gwynn Jones (gol.), Talhaiarn[:] detholiad o gerddi (Gwasg Aberystwyth, 1930), tt.12-13.
  39. Lloyd, t. 68.
  40. Lloyd, t. 176.
  41. Lloyd, t. 220.
  42. Lloyd, t. 233.
  43. Lloyd, t. 230.
  44. Lloyd, t. 6.
  45. Lloyd, t. 230-31.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: