Hugh Williams (Cadfan)

argraffydd a newyddiadurwr

Argraffydd a newyddiadurwr oedd Hugh Williams (180711 Gorffennaf 1870). Daeth yn enwog fel ysgrifennwr talentog ac amddiffynnydd yr Eglwys, ac roedd yn ysgrifennu o dan y ffugenw Cadfan.[1]

Hugh Williams
FfugenwCadfan Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1807 Edit this on Wikidata
Bryn-crug Edit this on Wikidata
Bu farw11 Gorffennaf 1870 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethargraffydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Cafodd ei eni ym Mryncrug, ger Tywyn, yn Sir Feirionnydd. Roedd o wedi gwneud prentisiaeth o dan yr argraffydd o Ddolgellau Richard Jones cyn dechrau argraffu a golygu papur Eglwys Loegr o'r enw Y Cymro yn Ionawr 1848. Trosglwyddodd perchenogaeth y papur i Mr. Shone yn 1849 ond parhaodd i olygu'r papur tan Hydref 1850. Ar ôl hyn, aeth Cadfan i Lundain. Roedd yn ffrind i John Jones (Talhaiarn) a William Jones (Gwrgant) ac roedd yn gweithredu fel ysgrifennydd i'r 'Cronfa Blwydd-dâl Talhaiarn’ yn ystod 1863 i 1865. Roedd o hefyd yn warden yr Eglwys Anglicanaidd Cymraeg yn Llundain am lawer o flynyddoedd. Yn 1870, roedd o wedi cael ei dewis fel golygydd cyntaf o bapur Eglwys Cymraeg, Y Dywysogaeth, a oedd yn cael ei chyhoeddi yn Rhyl.

Bu farw yn 1870.

Ffynonellau golygu

  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties, 1897, 45, 64, a 162-3;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the *present (1908);
  • T. M. Jones, Llenyddiaeth fy Ngwlad (1893), 20;
  • Yr Haul, 1870, 256;
  • Baner ac Amserau Cymru, 20 Gorffennaf 1870;
  • Cardiff Free Libraries: Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department (1898), 517;
  • NLW MSS 4511, 9276 (431).

Cyfeiriadau golygu

  1. "WILLIAMS, HUGH ('Cadfan'; 1807? - 1870), argraffydd a newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-22.