Hunanladdiad yng Nghymru
Cofiwch! |
Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel. |
Mae rhwng 300 a 350 o bobl yn lladd eu hunain yng Nghymru bob blwyddyn.[1] Mae'r nifer hwn yn uwch na'r cyfradd mewn unrhyw ardal yn Lloegr. Rhwng 1981 a 1990, nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y niferoedd yng Nghymru a Lloegr ond mae'r cyfradd wedi bod yn uwch yng Nghymru ers 1991[2]. Yn 2011, bu farw 28% yn fwy yng Nghymru o hunanladdiad nag yn Lloger. Roedd hyn yn cynnwys 270 o ddynion a 71 o fenywod dros 15 oed.
Yn 2012 roedd cyfradd hunanladdiad o 13.5 i bob 100,000 o bobl yn y wlad. Roedd y gyfradd hon yn uwch nag yn Lloegr (10.4 i bob 100,000) a'r Deyrnas Unedig gyfan (11.6 i bob 100,000). O'r 334 o bobl a fu'n lladd eu hunain yng Nghymru y flwyddyn honno, roedd 257 ohonynt yn ddynion.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Croeso i gynllun atal hunanladdiad. Golwg360 (12 Rhagfyr 2014). Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014.
- ↑ Gwefan BBC Cymru Fyw. (12 Ragfyr 2014) Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014
- ↑ (Saesneg) Latest figures on suicide shows Welsh rate remains higher than across the UK. WalesOnline (18 Chwefror 2014). Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014.