Hunanlywodraeth Corsica

Hunanreolaeth Coriscaidd yw'r egwyddor a'r mudiad dros ymreolaeth neu hunanlywodraeth i ynys Corsica, gyda phwerau gwleidyddol wedi'u datganoli o lywodraeth Ffrainc. Mae rhan o'r mudiad hefyd yn ymgyrchu dros annibyniaeth lwyr Corsica oddi wrth Ffrainc.

Baner Corsica

Hanes gyfansoddiadol

golygu

Mae Corsica wedi bod yn rhan o Ffrainc er pan brynwyd hi oddi wrth lywodraethwyr Genoa yn 1768, ac yna fe'i gorchfygwyd gan y Ffrancwyr.[1]

Ffurfiwyd rhanbarth gweinyddol Corsica a Chynulliad Corsica ym 1982 fel y “collectivité territoriale de Corse ’’. Yn y broses, enillodd y rhanbarth bwerau gwleidyddol pellach o gymharu ag awdurdodau lleol tir mawr Ffrainc.[2] Mae statudau neu gyfreithiau a basiwyd ym 1982, 1991 a 2002 wedi datganoli i Gorsica, yn debyg i ranbarthau eraill yn Ffrainc, heb unrhyw ddatganoli penodol i Corsica. Er bod gan Gynulliad Corsica rai pwerau i reoleiddio, ni all ddeddfu. Roedd cynigion Matignon Gorffennaf 2000 a drafodwyd rhwng llywodraeth Ffrainc a chynghorwyr Corsica yn cynnwys pŵer dros gyfreithiau cenedlaethol. Er i ddeddf Corsica gael ei mabwysiadu ar 22 Ionawr 2002 ni chafodd ei chwblhau oherwydd anghymeradwyaeth y Cyngor Cyfansoddiadol (Ffrainc).[3]

Yn 2003, gwrthodwyd diwygiadau cyfansoddiadol yn refferendwm ymreolaeth Corsica yn 2003.[4] Roedd y refferendwm a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023 yn cynnig ymreolaeth rannol.[5] Pleidleisiodd dros 49% o blaid gyda dros 50% yn pleidleisio yn erbyn gyda 60% o bobl Corsica yn pleidleisio. Dim ond 2,190 o bleidleisiau a wahanodd y bleidlais "Na" oddi wrth "Ie". Daeth y refferendwm yn dod ddeuddydd yn unig ar ôl arestio Yvan Colonna a oedd yn cael ei hamau o ladd y Prefect Claude Erignac, swyddog uchaf Ffrainc yng Nghorsica.[6] Ym mis Mawrth 2003, caniataodd yr Arlywydd Sarkozy bwerau arbrofol i addasu cyfreithiau dros gyfnod cyfyngedig ac o dan oruchwyliaeth Senedd Ffrainc ac ymreolaeth ariannol bellach i endidau tiriogaethol Ffrainc.[7]

Cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus

golygu
 
Enwau Ffrangeg wedi eu dileu gan genedlaetholwyr Corsica i ennill statws i'r iaith Corseg

Gellir olrhain symudiad hunanlywodraeth Corsica yn ôl i ddogfen o'r enw Autonomia a gyhoeddwyd yn 1974.[8]

Wedi ymgyrch filwriaethus am 40 mlynedd dros annibyniaeth Corsica yn dilyn sefydlu Ffrynt Rhyddhad Cenedlaethol Corsica (FLNC) yn 1976, gosododd milwriaethwyr eu harfau i lawr yn 2014.[9][10]

Ym mhleidlais ail rownd etholiad rhanbarthol Corsica 2017, fe enillodd clymblaid cenedlaetholgar o'r enw Pè a Corsica 56.5% o'r bleidlais. Cipiodd arlywydd plaid Ffrainc, La République en Marche dim ond 12.7% o’r pleidleisiau. Daeth buddugoliaeth clymblaid Pè a Corsica i fodolaeth drwy gytundeb ddwy flynedd ynghynt rhwng dwy blaid; un yn cefnogi annibyniaeth lawn dan arweiniad Gilles Simeoni (cadeirydd cyngor gweithredol Corsica), a'r llall yn cefnogi hunanlywodraeth dan arewiniad Jean-Guy Talamoni (siaradwr cynulliad Corsica). [11] Mae gan y mudiad Pè a Corsica (Ar gyfer Corsica) y nod o sicrhau ymreolaeth yn hytrach nag annibyniaeth oherwydd cyllid sylweddol gan Ffrainc.[11]

Yn 2022, nododd Gilles Simeoni fod 70% o etholwyr Corsica wedi pleidleisiodd “o blaid rhestr genedlaetholgar” yn etholiad tiriogaethol Corsica 2021.[12]

Materau penodol

golygu

Yn 2017, galwodd arweinwyr Pè a Corsica am ymreolaeth bellach, statws arbennig i fwy o ymreolaeth i Corsica, statws cyfartal i’r iaith Corseg ochr yn ochr â Ffrangeg ac amnest i’r Corsiciaid a gafodd eu carcharu am drais i gefnogi annibyniaeth. Galwodd yr arweinwyr cenedlaetholgar hefyd am statws preswylio ar gyfer Corsica er mwyn taclo busnes prynu a gwerthu tai gan fuddsoddiadau tramor.[13] [14]

Arolygon barn

golygu

Dangosodd arolwg barn yn 2017 fod 51% o blaid ymreolaeth bellach (roedd 10% o blaid annibyniaeth).[15]

Dangosodd arolwg barn yn 2022 fod 53% o blaid statws ymreolaeth lawn (roedd 35% o blaid annibyniaeth).[16]

Cynnig datganoli pellach 2023

golygu
 
Ajaccio Grand Hôtel Oriental, lleoliad Cynulliad Corsica .

Yn 2018, ymwelodd arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, â Chorsica gan ddatgan ei wrthwynebiad i gydnabod yr iaith Corseg a chynig amnest i filwriaethwyr Corsica.[17]

Yn ystod protestiadau Corsica yn 2022, dywedodd llywodraeth Ffrainc y gallai gynnig ymreolaeth i Corsica. Dywedodd y gweinidog mewnol Gérald Darmanin, “Rydyn ni'n barod i fynd cyn belled ag ymreolaeth - dyna chi, mae'r gair wedi'i ddweud". Dywedodd y gweinidog na fyddai “unrhyw ddeialog” ar y mater nes i brotestiadau treisgar ddod i ben. Erbyn 16 Mawrth 2022 bu terfysg am bythefnos ac anafwyd 100 o bobl yn y cyfnod hyn. Targedwyd adeiladau cyhoeddus a'r heddlu gyda dyfeisiau ffrwydrol cartref.[18]

Ar 28 Medi 2023, rhoddodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron araith yng Nghynulliad Rhanbarthol Corsica yn Ajaccio. Ynddo, cynigiodd "ymreolaeth i Corsica ac o fewn y weriniaeth" trwy "destun cyfansoddiadol ac organig i'w gyflwyno i'w gymeradwyo o fewn chwe mis", i'w gytuno rhwng gwleidyddion Corsica a llywodraeth Ffrainc.[19][20] Byddai hyn yn caniatáu "y posibilrwydd o ddiffinio safonau ar bynciau gwahanol neu drosglwyddo pwerau" sydd ar hyn o bryd yn cael eu rheoli gan Gyngor Gwladol Ffrainc a Chyngor Cyfansoddiadol Ffrainc.[21]

Dyma'r tro cyntaf i arlywydd Ffrainc gefnogi ymreolaeth Corsica yn gyhoeddus.[22]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Macron breaks French taboo on autonomy for Corsica – now for the hard part". France 24 (yn Saesneg). 2023-10-02. Cyrchwyd 2023-10-02.
  2. Richards, Claudina (2004-09-01). "Devolution in France: the Corsical Problem" (yn en). European Public Law 10 (3). ISSN 1354-3725. https://kluwerlawonline.com/api/Product/CitationPDFURL?file=Journals\EURO\EURO2004029.pdf.
  3. "After the Scottish referendum: Corsican contagion?". openDemocracy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-06.
  4. Richards, Claudina (2004-09-01). "Devolution in France: the Corsical Problem" (yn en). European Public Law 10 (3). ISSN 1354-3725. https://kluwerlawonline.com/api/Product/CitationPDFURL?file=Journals\EURO\EURO2004029.pdf.
  5. "35. France/Corsica (1967-present)". uca.edu (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-06.
  6. "Corsica Says "Non" to Greater Autonomy – DW – 07/07/2003". dw.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-06.
  7. "Corsica Says "Non" to Greater Autonomy – DW – 07/07/2003". dw.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-06.
  8. "After the Scottish referendum: Corsican contagion?". openDemocracy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-06.
  9. "France's Macron confronts Corsica's calls for more autonomy". Reuters (yn Saesneg). 2018-02-06. Cyrchwyd 2023-10-06.
  10. "After the Scottish referendum: Corsican contagion?". openDemocracy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-06.
  11. 11.0 11.1 Willsher, Kim (2017-12-11). "Corsica calls for greater autonomy from France after election". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-10-03.
  12. Basso, Davide (2022-03-16). "French presidential candidates divided on granting Corsica autonomy". www.euractiv.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-06.
  13. "France's Macron confronts Corsica's calls for more autonomy". Reuters (yn Saesneg). 2018-02-06. Cyrchwyd 2023-10-06.
  14. McAuley, James (2023-04-09). "Corsican nationalists win local vote, as another corner of Europe seeks its own path". Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2023-10-06.
  15. "Corsica poll boost to French state". www.connexionfrance.com. Cyrchwyd 2023-10-06.
  16. "Les Français favorables à un statut d'autonomie pour l'île". CorseMatin.com (yn Ffrangeg). 2022-03-14. Cyrchwyd 2023-10-06.
  17. "France's Macron confronts Corsica's calls for more autonomy". Reuters (yn Saesneg). 2018-02-06. Cyrchwyd 2023-10-06.
  18. Chrisafis, Angelique (2022-03-16). "France may offer Corsica 'autonomy' as it struggles to quell protests". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-10-02.
  19. "Macron offers Corsica autonomy 'without disengagement from the state'". euronews (yn Saesneg). 2023-09-28. Cyrchwyd 2023-10-02.
  20. "France's Macron proposes 'a form of autonomy' for Corsica after riots". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-02.
  21. "Macron offers Corsica autonomy 'without disengagement from the state'". euronews (yn Saesneg). 2023-09-28. Cyrchwyd 2023-10-02.
  22. "Macron breaks French taboo on autonomy for Corsica – now for the hard part". France 24 (yn Saesneg). 2023-10-02. Cyrchwyd 2023-10-02.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gorsica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.