Cenedlaetholdeb Llydewig

Cenedlaetholdeb Llydewig yw cenedlaetholdeb Llydaw. Gall fod ag agweddau gwleidyddol neu ddiwylliannol, a gall cenedlaetholdeb gwleidyddol fod yn anelu at annibyniaeth neu at hunanlywodraeth o fewn Ffrainc.

Y Gwenn-ha-du, baner Llydaw

Mae cenedlaetholdeb Llydewig yn wahanol i genedlaetholdeb rhai o’r gwledydd cyfagos, megis Cymru neu Wlad y Basg, gan fod y blaid genedlaethol fwyaf, Unvaniezh Demokratel Breizh (Union démocratique bretonne, UDB) yn anelu at ddatganoli yn hytrach nag annibyniaeth.[angen ffynhonnell] Hyd yn hyn nid yw Llydaw fel y cyfryw wedi cael datganoli. Rhennir taleithiau hanesyddol Llydaw rhwng dwy Région Ffrengig, y mwyafrif o'r taleithiau traddodiadol yn ffurfio Région Bretagne, ond gyda Loire-Atlantique yn région Pays-de-la-Loire. Un o amcanion cenedlaetholdeb Llydewig yw ad-uno Llydaw fel un uned.

Rhennir hanes cenedlaetholdeb Llydewig yn dri Emsav (Llydaweg yn golygu "symudiad gwleidyddol" neu "wrthryfel"). Yr Emsav cyntaf oedd y cyfnod yn y 19g a hyd 1914, y cyfnod a welodd ddechreuadau'r symudiad cenedlaethol. Yr Ail Emsav oedd y cyfnod 1914-1945. Pan orchfygwyd Ffrainc gan Yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis Roparz Hemon gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw. Yn Rhagfyr 1943 llofruddiwyd yr Abbé Perrot, cenedlaetholwr Llydewig amlwg, gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, gan haeru ei fod yn cydweithio a'r Almaenwyr. Bu raid i eraill, megis Roparz Hemon, ffoi i Gymru ac Iwerddon ar ddiwedd y rhyfel, a bu adwaith cryf ar ran llywodraeth Ffrainc yn erbyn yr iaith a'r diwylliant Llydewig. Y Trydydd Emsav yw'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda chyfnod o adfywiad o'r 1960au ymlaen.

Pleidiau a mudiadau golygu

  • Unvaniezh Demokratel Breizh (UDB), adain-chwith, yn anelu at ddatganoli, regionaliste.
  • Strollad Breizh (Parti Breton), yn anelu at annibyniaeth.
  • CBIL (Coordination Bretagne Indépendante et Libertaire / Kenurzh Breizh Dizalc'h), anarchaidd.
  • Adsav, adain-dde

Unigolion golygu

Gweler hefyd golygu