Huw Derfel
Bardd a hanesydd lleol oedd Huw Derfel, enw llawn Hugh Derfel Hughes (7 Mawrth 1816 – 21 Mai 1890). Roedd yn frodor o Landerfel, Sir Feirionnydd (Gwynedd), ond treuliodd ran sylweddol o'i oes yn byw yn Nhregarth ger Bethesda, lle gweithiai yn y chwarel. Roedd yn dad i'r llenor plant Hugh Brython Hughes (1848-1913), ei unig fab, ac yn daid i'r ysgolhaig enwog Ifor Williams.
Huw Derfel | |
---|---|
Ffugenw | Huw Derfel |
Ganwyd | 7 Mawrth 1816 Llandderfel |
Bu farw | 21 Mai 1890 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Cyhoeddodd lyfr ar hanes y fro, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Ei gyfrol fwyaf unigryw yw Llawlyfr Carnedd Llywelyn (1864), y llawlyfr mynydd cyntaf yn y Gymraeg. Ffrwyth cystadleuaeth 'Llaw-lyfr i ben Carnedd Llewelyn, a'r mynyddoedd cylchynol' yn Eisteddfod Cymreigyddion Bethesda, 1864, oedd y llawlyfr, ac fe'i cyhoeddwyd yn y Cyfansoddiadau er nad oedd y gyfrol fuddugol.
Cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth yn null poblogaidd y dydd. Ei gyfrol fwyaf llwyddiannus oedd Blodeu'r Gân (1841).
Llyfryddiaeth
golygu- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922)
- Ioan Bowen Rees, Bylchau (Caerdydd, 1995). Ceir sôn am Huw Derfel a'i lawlyfr yn y bennod gyntaf, 'Llawlyfr Carnedd Llywelyn'.