Agor y brif ddewislen

Llandderfel

pentref gwledig a chymuned yn nwyrain Gwynedd

Pentref gwledig a chymuned yn nwyrain Gwynedd yw Llandderfel ("Cymorth – Sain" ynganiad ) , tua 3 milltir i'r dwyrain o'r Bala. Mae plwyf Llandderfel yn un o bump plwyf Penllyn. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf Dyffryn Edeirnion yn agos i'r Sarnau a Chefnddwysarn, wrth odre'r Berwyn.

Llandderfel
Llandderfel - geograph.org.uk - 750615.jpg
Math anheddiad dynol, cymuned Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.922°N 3.516°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000071 Edit this on Wikidata
Cod OS SH980371 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Poster o gyfarfod cyhoeddus yn Llandderfel; Mai 1895

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Yr hen bont dros afon Dyfrdwy ger Llandderfel.
Llandderfel: adeilad yr hen ysgol.

Hanes yr eglwysGolygu

Mae eglwys Llandderfel yn hen ac wedi'i chysegru i Sant Derfel Gadarn (fl. 6g efallai). Ceir yma ffenest liw nodedig iawn gan James Powell a'i fab, sy'n dyddio i 1890.[3] Yn y porth gwelir ceffyl pren derw hynafol. Ar un adeg roedd y sant yn marchogaeth y ceffyl ond yn ystod y Diwygiad Protestannaidd cymerwyd delw'r sant a'i ffon a'u cludo i Lundain lle cawsent eu defnyddio i losgi offeiriad Catholig ar y Bryngwyn ar orchymyn Thomas Cromwell. Yn rhyfedd iawn roedd hyn yn cyflawni hen broffwydoliaeth y byddai'r ddelw ryw ddydd yn llosgi coedwig gyfan: enw'r offeiriad druan oedd 'Mr Forest'.

Roedd yn arfer gan y plwyfolion orymdeithio gyda'r sant ar ei geffyl pren i fyny i ben allt leol a elwir Bryn y Saint. Credid fod y ddelw'n gallu iachau'r claf. Ceir Ffynnon Dderfel ger yr eglwys.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandderfel (pob oed) (1,095)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandderfel) (708)
  
67.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandderfel) (727)
  
66.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandderfel) (131)
  
30%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

EnwogionGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3.  Church of St Derfel, Llandderfel, Gwynedd, formerly in Merioneth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 5 Mai 2012.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.