Huw Evans

actor a aned yn 1985

Cerddor a chyflwynydd teledu a radio Cymraeg ydy Huw Evans (ganwyd 15 Mawrth 1985) sy'n perfformio dan yr enw H. Hawkline.[1] Mae'n fab i'r cyflwynydd teledu Hywel Gwynfryn.

Huw Evans
FfugenwH. Hawkline Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Mawrth 1985 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Label recordioHeavenly Recordings Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor, canwr-gyfansoddwr, dylunydd graffig, cyflwynydd radio, offerynnau amrywiol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIn the Pink of Condition Edit this on Wikidata
Arddullindie folk, roc poblogaidd Edit this on Wikidata
TadHywel Gwynfryn Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Daeth i'r amlwg yn 2001 fel aelod o'r band Mwsog a ffurfwyd tra oedd yn mynychu Ysgol Glan Clwyd. Roedd yn cyflwyno rhaglenni gwestai C2 ar BBC Radio Cymru ac i dot dot[2]. Roedd yn un o brif gyflwynwyr y gyfres gerddoriaeth Bandit ar S4C gyda Huw Stephens. Bu hefyd yn actio rhan Skid ar raglen Xtra ar S4C.[3]

Cerddoriaeth golygu

 
Huw Evans

Mae wedi chwarae gyda cherddorion megis Cate Le Bon a Sweet Baboo. Yn 2010, dechreuodd chwarae ei gerddoriaeth ei hun dan yr enw H. Hawkline, gan chwarae mewn nifer o wyliau gan gynnwys Green Man a Sŵn. Mae hefyd wedi dylunio gwaith celf ei record ei hun yn ogystal â Me Oh My ar gyfer Cate Le Bon. Cymerodd yr enw H. Hawkline o'i hoff lyfr, The Hawkline Monster gan yr awdur Americanaidd Richard Brautigan.[4]

Disgyddiaeth golygu

  • A Cup of Salt, 6 Rhagfyr 2010 (Shape Records)
  • The Strange Uses Of Ox Gall, 5 Medi 2011 (Shape Records)
  • Black Domino Box EP, Awst 2012 (Shape Records)
  • Ghouls EP, 17 Mehefin 2013 (Turnstile)
  • In the Pink of Condition, 2 Chwefror 2015 (Heavenly)
  • I Romanticize, 2 Mehefin 2017 (Heavenly)

Cyfeiriadau golygu

  1. TV presenter Huw Evans forges musical career as alter-ego H Hawkline (en) , WalesOnline, 20 Ionawr 2011. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2016.
  2.  maes-e - I dot. maes-e (9 Ionawr 2004). Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
  3. Cyfweliad gyda Huw Evans ar wefan C2 1 Ebrill 2004
  4.  TV presenter Huw Evans forges musical career as alter-ego H Hawkline (20 Ionawr 2011). Adalwyd ar 2 Medi 2011.

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.