Hydrograffeg
Mae hydrograffeg yn faes o fewn gwyddorau daear sy'n astudiaeth o nodweddion ffisegol afonydd, cefnforoedd, llynnoedd ac arfordiroedd. Gwneir hyn yn aml er mwyn rhagdybio, drwy fodelu, sut mae lefelau afonydd yn ymateb i'r tywydd. Defnyddir y wybodaeth hon er mwyn diogelu llongau a gweithgareddau dyfrol, morol fel melinau gwynt neu lwyfanau olew. Caiff y wybodaeth hefyd ei defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac er mwyn diwydiant ac er mwyn ceisio amddiffyn tai a threfi rhag gorlifo, y môr neu effaith newid yn yr hinsawdd.[1]
- Erthygl am faes o fewn gwyddorau daear yw'r erthygl hon; am y graff sy'n dangos sut mae arllwysiad afon yn newid dros amser, gweler "Hydrograff".
Lewis Morris
golygu- Prif: Lewis Morris
Ganed Lewis Morris yn y Tyddyn Melys, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd a'i fagu ar fferm Pentre-eiriannell, ger Penrhosllugwy, Môn. Cafodd ei gyflogi i wneud arolwg o dir ystad Bodorgan gan Owen Meyrick yn 1734. O 1737 hyd 1744 ymgymrodd â'r dasg anferth o fapio a syrfeio arfordir Cymru, gwaith a gyhoeddywd fel siart a chyfrol o fapau yn 1748.
Yn dirfesurydd symudodd i Geredigion yn 1742 a chafodd y gwaith o ofalu am hawliau'r Goron yn ardaloedd y gweithfeydd plwm yn ardal Pumlumon yn 1744.
Gweler hefyd
golygu- ↑ "International Hydrographic Organization". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-24. Cyrchwyd 2016-08-23.