Penrhoslligwy

pentref ar Ynys Môn
(Ailgyfeiriad o Penrhosllugwy)

Plwyf eglwysig ac ardal ym Môn yw Penrhoslligwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Penrhos Lligwy).

Penrhoslligwy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMoelfre Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3483°N 4.28406°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Penrhoslligwy oedd maerdref Cwmwd Twrcelyn, un o chwech cwmwd ar Ynys Môn. Nid oes olion o'r faerdref yn bodoli erbyn heddiw. Fel gweddill yr ynys, y prif alwedigaeth oedd gweithio'r tir, rhandiroedd yn cael eu rhannu rhwng y taeogion gan y Tywysog neu ei swyddogion. Roedd yn rhaid i’r tenantiaid ddarparu bwyd, tanwydd, rhai nwyddau domestig, llafur a rhent i'r llys. Buasai y Tywysog yn gadael ei brif lys yn Aberffraw i dreulio'i amser yn ei faesdrefi teirgwaith y flwyddyn.[1]

Ceir eglwys y plwyf ym Mhenrhoslligwy, sef Eglwys Sant Mihangel.

Lleolir Mynydd Bodafon yn rhannol ym mhlwyf Mhenroslligwy.

Dynodwyd rhan fawr o dir Penrhoslligwy yn ardal gadwraeth - gweler Penrhoslligwy (SoDdGA).

Cyfeiriadau

golygu
  1. A.D. Carr, Medieval Anglesey. Anglesey Antiquarian Society, Llangefni, 1982.