Hyoscin butylbromid

cyfansoddyn cemegol

Mae hyoscin butylbromid, a elwir hefyd yn scopolamin butylbromid ac yn cael ei werthu o dan yr enw brand Buscopan, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin poen cramp yr abdomen[1], gwewyr yr oesoffagws, colig arennol a gwewyr y bledren. Fe'i defnyddir hefyd i wella'r chwarenlifau anadlol ar ddiwedd bywyd. Gellir ei weini trwy'r genau, ei chwistrellu i mewn i gyhyr, neu ei chwistrellu i mewn i wythïen.

Hyoscin butylbromid
Codwarth, ffynhonnell y cyffur
Enghraifft o'r canlynolpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs439.13582054 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₁h₃₀brno₄ edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b2 edit this on wikidata
Yn cynnwysbutylscopolamine(1+) Edit this on Wikidata

Sgil effeithiau golygu

Gall sgil effeithiau gynnwys cysgadrwydd, newid i'r golwg, gall sbarduno glawcoma ac alergeddau difrifol. Nid yw'n glir os yw'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd.

Hanes, cymdeithas a diwylliant golygu

Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd. Fe'i cynhyrchir o hyoscin sy'n digwydd yn naturiol yn y planhigyn codwarth.

Camddefnydd golygu

Nid yw Hyoscin Butylbromid yn weithredol yn ganolog gan hynny prin yw'r achosion o gamddefnydd. Yn 2015, adroddwyd bod carcharorion yng Ngharchar Wandsworth a charchardai eraill yn y DU yn ysmygu Hyoscin Butylbromid rhagnodedig, i ryddhau ei elfennau scopolamin sydd yn rhithbeiryn cryf[2]

Cyfeiriadau golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!