Hywel Eryri
Bardd o Gymru oedd Hugh Evans (1767-1841).[1] Roedd yn wehydd o ran ei alwedigaeth. Ysgrifennai o dan yr enw barddol "Hywel Eryri". Fe'i ganwyd ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Sir Fôn. Symudodd i Abererch, wedyn Chwilog, ac wedyn i Blas Madog ym mhlwy Clynnog Fawr, ac yn olaf i ardal Pen-y-groes. Dichon mai yn Uwchgwyrfai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
Hywel Eryri | |
---|---|
Ganwyd | 1767 Llanfair-Mathafarn-Eithaf |
Bu farw | c. 1841 |
Man preswyl | Aber-erch, Chwilog, Clynnog Fawr, Pen-y-groes, Arfon Uwch Gwyrfai |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gwëydd |
Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau yn weddol ifanc; ysgrifennodd gywydd ar "Gariad" ar gyfer Eisteddfod Bangor, c. 1790, ac un arall yn 1802 ar "Drylliad y llong Minerva, Ionawr 21, 1802". Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi ym mlodeugerdd "Corff y Gaingc" (1810). Roedd yn un o'r beirdd a atgyfododd hen fesur yr Englyn cil-dwrn.
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "EVANS, HUGH ('Hywel Eryri '; 1767-1841?), bardd", Y Bywgraffiadur Cymreig