Hywel ab Ednyfed

( -1247) o dras fonheddig

Esgob Llanelwy o 1240 i 1247 oedd Hywel ab Ednyfed (bu farw 1247), y cyfeirir ato hefyd fel Hywel II.[1]

Hywel ab Ednyfed
Bu farw1247 Edit this on Wikidata
TadEdnyfed Fychan Edit this on Wikidata
MamTangwystl ferch Llywarch Edit this on Wikidata

Cymharol ychydig a wyddom am Hywel. Mae'n bosibl ei fod yn un o feibion Ednyfed Fychan, er nad oes sicrwydd am hynny. Cyfeirir ato sawl gwaith yn nogfennau'r cyfnod yng nghwmni'r Tywysog Dafydd ap Llywelyn, mab Llywelyn Fawr.[2]

Cyfeirir at Hywel ym Mrut y Tywysogion fel yr esgob a gysegrodd Frodordy Llan-faes, Môn. Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog yn Llan-faes i'r Brodyr Troednoeth er anrhydedd i'w wraig y Dywysoges Siwan, merch y brenin John o Loegr ar ôl iddi farw yn 1237. Dyma'r cofnod ym Mrut y Tywysogion:

Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn llys Aber; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.[3]

Bu farw Hywel ger Rhydychen yn 1247, efallai tra yno fel rhan o lysgenhadaeth Gwynedd yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Woodstock yn y flwyddyn honno, ar ran y Llywelyn ap Gruffudd ifanc a'i frawd Owain.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984), tud. 169
  2. The Governance of Gwynedd, tud. 35.
  3. Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20, gol. Thomas Jones (Caerdydd, 1941). Orgraff ddiweddar.
  4. The Governance of Gwynedd, tud. 170.