Brodordy Llan-faes

Brodordy yn perthyn i Urdd Sant Ffransis oedd Brodordy Llan-faes, ar safle yn Llan-faes, Ynys Môn. Safai ar lecyn ger Llan-faes heb fod nepell o lan Afon Menai, tua hanner ffordd rhwng safle Biwmares heddiw a Llangoed.

 
Wyneb y Dywysoges Siwan ar ei harch. Mae'r arch garreg i'w gweld yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares.
 
Modrwy aur ganoloesol a ddarganfuwyd yn Llan-faes.

Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog i'r Brodyr Troednoeth yn Llan-faes er anrhydedd i'w wraig Siwan, merch y brenin John o Loegr ar ôl iddi farw yn 1237. Ceir yr hanes yn Brut y Tywysogion:

Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn llys Aber; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.[1]

Cysegrwyd Hywel ab Ednyfed yn Esgob Llanelwy yn 1240, felly ni allai'r adeiladau fod yn barod i wasanaethu fel brodordy tan o y flwyddyn honno neu ychydig ar ôl hynny.

Adeiladwyd y brodordy yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr, rhwng 1237 a dechrau'r 1240au ar ôl i Lywelyn roi grant o dir i'r Urdd. Roedd Llan-faes ei hun yn lle o bwys yn y cyfnod hwnnw gyda thref fechan fywiog a phorthladd gerllaw. Roedd fferi dros Afon Menai yn ei chysylltu ag Abergwyngregyn, safle prif lys Teyrnas Gwynedd yn y 12g.

Mynachlog cymharol tlawd oedd y Brodordy, a hynny o ddewis am nad oedd y Brodyr Troednoeth yn credu mewn eiddo materol.[2]

Ar ôl goresgyniad Cymru gan Edward I, brenin Lloegr, cododd Madog ap Llywelyn mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson yn 1295 a dioddefodd y fynachlog ychydig o ddifrod yn sgil hynny. Cafodd ddifrod gwaeth ym 1401 gan i'r Brodyr ochri ag Owain Glyndŵr yn ei wrthyfel a bu'n rhaid gadael i'r lle fynd yn wag am gyfnod. Yn nheyrnasiad Harri V, brenin Lloegr, gwelodd y Brodordy fuddsoddiad a chafodd ei adfer unwaith yn rhagor. Fodd bynnag, gorchmynodd Harri VIII, brenin Lloegr, y dylid dymchwel y Brodordy am y tro olaf ym 1538; roedd hynny'n rhan o'i gynllun i ddiddymu'r mynachlogydd yn gyffredinol. Dechreuwyd ar y gwaith o wneud hynny flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1539.

Yn y 19eg ganrif, symudwyd beddrod Siwan i Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares, lle mae i'w weld heddiw.

Y safle heddiw

golygu

Er gwaethaf protestiadau yn erbyn y cynllun, codwyd gwaith carthffosiaeth ar safle'r fynachlog yn y 1990au gan Dŵr Cymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20 (Caerdydd, 1941). Orgraff ddiweddar.
  2. A. D. Carr, 'Tiroedd yr Eglwys a'r mynachlogydd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).