Hywel ab Ieuaf

brenin Gwynedd

Roedd Hywel ab Ieuaf (bu farw 985) yn frenin Gwynedd.

Hywel ab Ieuaf
Ganwyd10 g Edit this on Wikidata
Bu farw985 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
TadIeuaf ab Idwal Edit this on Wikidata
PlantCynan ap Hywel Edit this on Wikidata

Roedd Hywel yn fab i Ieuaf ab Idwal fu'n teyrnasu ar Wynedd ar y cyd gyda'i frawd Iago ab Idwal hyd 969. Yn y flwyddyn honmno, bu cweryl rhwng meibion Idwal, a chymerwyd Ieuaf yn garcharor gan Iago. Yn 979 gorchfygwyd Iago mewn brwydr gan Hywel a chymerwyd yntau yn garcharor. Daeth Hywel yn frenin Gwynedd, ond mae'n ymddangos na ollyngodd ei dad yn rhydd o garchar. Yn ôl J.E. Lloyd, bu Ieuaf yng ngharchar hyd 988.

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Hywel. Yn 983, gwnaeth gynghrair gyda'r Saeson i ymosod ar Buellt a Brycheiniog, ond llwyddodd Einion ab Owain o Ddeheubarth i'w hatal. Bu Hywel farw yn 985 a dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei frawd, Cadwallon ab Ieuaf.

Cyfeiriadau

golygu

John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)

O'i flaen :
Iago ab Idwal
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Cadwallon ab Ieuaf