Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol

(Ailgyfeiriad o ISBN)

Rhif cofrestru a ddefnyddir yn y fasnach lyfrau yw'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN o'r Saesneg International Standard Book Number). Fe'i defnyddir yn helaeth gan siopau llyfrau a llyfrgelloedd er enghraifft. Rhoddir rhif arbennig i bob llyfr a gyhoeddir, ond nid i gyfnodolion (defnyddir ISSN).

ISBN ar clawr llyfrau Cymraeg

Rhoddir un Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol unigol wedi ei gofrestri i bob llyfr, a dydy'r rhif ddim yn newid pan adargraffir - heblaw mewn argraffiad newydd â testun wedi newid yn sylweddol - ond mae rhif llyfr clawr meddal yn wahanol i un clawr caled. Beth bynnag, nid oes Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol ar bob llyfr am nad yw llawer o wasgau bychain yn cofrestru eu llyfrau.

Roedd pobl yn Ewrop yn ystyried cyflwyno rhif cofrestru llyfrau ers y 1960au ac ym 1968 cychwynnodd y Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISO) weithgor i gynllunio rhif felly. Ym 1972 daeth ISO 2108 ar gyfer y Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol i rym.

Cyn 2007 defnyddiwyd rhif cofrestru wahanol yn Unol Daleithiau, ond ers 1 Ionawr 2007 newidiodd hynny gyda'r cynllun i ddefnyddio rhifau hirach 13 digid (safon EAN-13).

Ystyr y rhif

golygu

Mae'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn cynnwys côd ar gyfer gwlad, gwasg a teitl y llyfr yn ogystal â swm prawf (checksum). Fel arfer, mae cysylltnod (-) rhwng pob côd.

  • Y rhif cyntaf yw rhif yr ardal, er enghraifft mae "0" neu "1" yn rhif gwledydd ble siaredir Saesneg (y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau, Awstralia, India), "2" yn rhif gwledydd ble siaredir Ffrangeg a "3" yn rhif gwledydd ble siaredir Almaeneg.
  • Yr ail rhif yw rhif y wasg sydd yn cael ei ddosbarthu gan Asiant ISBN Cenedlaethol neu Leol.
  • Y trydydd rhif yw rhif y teitl. Gall y gwasg dewis y rhif hon. Mae'n rhaid i'r Rhif newid ar gyfer clawr newydd, tomenau sydd ar werth ar wahân ac ati.
  • Y rhif olaf yw'n swm prawf (checksum). Gall fod yn rhif neu yn "X".