James James
cyfansoddwr a aned yn 1832
(Ailgyfeiriad o Iago ap Ieuan)
Telynor a cherddor o ardal Pontypridd oedd James James neu Iago ap Ieuan (4 Tachwedd 1832 – 11 Ionawr 1902). Ef oedd yn gyfrifol am gyfansoddi'r dôn Glan Rhondda. Adnabyddir y dôn hon yn well heddiw fel 'Hen Wlad fy Nhadau'. Cyfansoddwyd y dôn ym mis Ionawr, 1856. Ei dad, Evan James ('Ieuan ab Iago'; (1809-1878)) oedd awdur y geiriau.
James James | |
---|---|
Ffugenw | Iago ap Ieuan |
Ganwyd | 4 Tachwedd 1832 Argoed |
Bu farw | 11 Ionawr 1902 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, bardd, cyfansoddwr |
Adnabyddus am | Hen Wlad fy Nhadau, Bro Gozh ma Zadoù |
Tad | Evan James |
Fe'i ganed yn nhafarn yr Ancient Druid ger Bedwellte, Caerffili.[1]
Mae cerflun ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd ar ffurf dau berson i gynrhychioli'r awen o Gerddoriaeth a Barddoniaeth, i goffai James James, a'i dad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas, Daniel Lleufer (1912), Dictionary of National Biography, 2 (1912 supplement ed.), London: Smith, Elder & Co., p. 361, https://en.wikisource.org/wiki/Page%3ADictionary_of_National_Biography%2C_Second_Supplement%2C_volume_2.djvu/381