Ian Jones

Gweithredwr darlledu o Gymro

Gweithredwr ym myd teledu yw Ian Jones (ganwyd 14 Ionawr 1959) a oedd yn Brif Weithredwr S4C rhwng 2011 a 2017. Mae ganddo brofiad o weithio yn y DU ac yn yr UDA, gan ddal swyddi uchel yn National Geographic TV ac A&E Networks cyn ymuno â S4C yn Ebrill 2012. Penderfynodd adael ei swydd gyda S4C yn 2017 ac ei olynydd oedd Owen Evans.[1]

Ian Jones
Ganwyd14 Ionawr 1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata

Bywyd personol ac addysg

golygu

Ganwyd Jones yn Nhreforys, Abertawe yn 1959 i Margaret Jones a Lyle Jones. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac astudiodd economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd Jones yn weithredwr comisiynu ac yn rhan o'r tîm gwreiddiol wrth lansio S4C yn 1982, gan aros hyd 1985 pan ymunodd â ITV fel rheolwr uned yn ei is-adran adloniant.

O 1987-1989 roedd Jones yn gynhyrchydd teledu annibynnol, cyn dychwelyd i S4C fel cyfarwyddwr Rhyngwladol a Chydgynhyrchu yn 1992.

Gadawodd S4C eto yn 1996 i ddod yn gyfarwyddwr o adran ryngwladol STV, ac am gyfnod byr yn 2000 roedd yn brif swyddog gweithredol STV. Gadawodd STV yn hwyrach yn 2000 i fod yn ddirprwy rheolwr gyfarwyddwr o adran ryngwladol Granada hyd 2004.

Rhwng 2004 a 2007 roedd Jones yn lywydd National Geographic TV International, ac wedi hynny roedd yn dal swyddi yn Target Entertainment Group a A&E Networks. Cafodd ei benodi yn brif weithredwr S4C ym mis Hydref 2011 ond ni gychwynnodd y swydd tan Ebrill 2012.

Swyddi arall

golygu

Mae Ian Jones yn Ymddiriedolwr, Cymru, o elusen Cymorth i Ddioddefwyr, Cyfarwyddwr CDN, aelod o Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol, yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Croeso Cymru, yn gyn-Gadeirydd Bafta Cymru ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  S4C yn cyhoeddi fod ei Brif Weithredwr yn gadael ei rôl ar ddiwedd 2017. S4C (9 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 15 Mai 2017.