Owen Evans

Prif Weithredwr S4C

Gwas sifil a gweithredwr busnes yw Gwyn Owen Evans (ganwyd Tachwedd 1968). Cychwynnodd fel Prif Weithredwr S4C ar 1 Hydref 2017.

Owen Evans
GanwydGwyn Owen Evans Edit this on Wikidata
Tachwedd 1968 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethprif weithredwr, gwas sifil Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe'i magwyd yn Aberystwyth ac aeth i Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Gyrfa golygu

Bu'n gweithio am 10 mlynedd gyda BT, a chododd i fod yn Bennaeth Cysylltiadau â'r Llywodraeth, Llywodraeth Ddatganoledig a Llywodraeth Leol yng Ngwasanaethau Byd-eang BT. Rhwng 2008 a 2010 roedd yn gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru. [1]

Ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2010 fel Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes. Yn 2012 daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau ac ar 1 Gorffennaf 2015, daeth yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.[2]

Mae’n gyn-aelod o Fwrdd yr Iaith, Prifysgol Cymru, Casnewydd a Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru. Mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol elusen Marie Curie yng Nghymru.

Ar 15 Mai 2017 cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi fel Prif Weithredwr newydd S4C yn olynu Ian Jones.

Yn Ionawr 2022 dechreuodd ei waith fel Prif Arolygydd Estyn. Dilynodd Meilyr Rowlands a ymddeolodd ym mis Awst 2021.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C. S4C (15 Mai 2017). Adalwyd ar 16 Mai 2016.
  2.  Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol - Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Llywodraeth Cymru (7 Ionawr 2016). Adalwyd ar 16 mai 2017.
  3. "Cyhoeddi Prif Arolygydd newydd Estyn". Llywodraeth Cymru. 21 Gorffennaf 2021.