Idea Vilariño
Bardd a beirniad llenyddol o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Idea Vilariño (18 Awst 1920 – 28 Ebrill 2009). Roedd yn un o lenorion La Generación del 45.
Idea Vilariño | |
---|---|
Ganwyd | Idea Vilariño Romani 18 Awst 1920 Montevideo |
Bu farw | 28 Ebrill 2009 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | cyfieithydd, llenor, athro cadeiriol, bardd, cyfansoddwr, ysgolhaig llenyddol |
Cyflogwr | |
Mudiad | La Generación del 45 |
Tad | Leandro Vilariño |
Gwobr/au | Premio José Lezama Lima, Gwobr Konex |
Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái. Addysgodd lenyddiaeth yn ysgolion uwchradd Montevideo o 1952 nes i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym ym 1973. Wedi diwedd yr unbennaeth honno, daeth Vilariño yn athrawes llên Wrwgwái ym Mhrifysgol y Weriniaeth ym 1985.[1]
Ymhlith ei chyfrolau o farddoniaeth mae La suplicante (1945), Cielo, cielo (1947), Paraíso per dido (1949), Nocturnos (1955), Poemas de amor (1957), Pobre mundo (1966), Treinta poemas (1967), Poesía (1970), Segunda antología (1980), a No (1980). Derbyniodd Wobr Gwaith Deallusol José Enrique Rodó oddi ar lywodraeth ddinesig Montevideo ym 1987, a Gwobr Lenyddol Konex yn 2004.[2]
Ysgrifennodd lyfrau am farddoniaeth Julio Herrera y Reissig (1950) ac Antonio Machado (1951), ac astudiaeth o eiriau caneuon tango, Las letras de tango (1965). Cyhoeddwyd ysgrifau ac erthyglau beirniadol ganddi yn y cylchgronau Clinamen, Asir, Hiperión, Marcha, Puente, Carte Segrete, Texto Crítico, La Opinión, Revista del Sur, a Brecha. Bu hefyd yn cyfieithu gwaith William Shakespeare i'r Sbaeneg.[2]
Bu farw yn yr ysbyty ym Montevideo yn 89 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Sbaeneg) "Muere la poeta uruguaya Idea Vilariño", El País (28 Ebrill 2009). Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Magdalena García Pinto, "Vilariño, Idea (1920–)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.
Darllen pellach
golygu- Judy Berry-Bravo, Idea Vilariño: Poesía y crítica (Montevideo: Ediciones de la Banda Oriental, 1999).
- Judy Berry-Bravo, Texts and Contexts of Idea Vilariño's Poetry (Efrog Newydd: Spanish Literature Publications Co., 1994).
- Susana Crelis Secco, Idea Vilariño: Poesía e identidad (Dinas Mecsico: UNAM, 1990).