Agor y brif ddewislen

Sant Cymreig oedd Idloes (fl. 6g neu'r 7fed?). Yn ôl traddodiad, ef a sefydlodd eglwys Llanidloes ym Maldwyn, Powys.

Hanes a thraddodiadGolygu

Yn ôl yr achau ym Mucheddau'r Saint, roedd Idloes yn fab i Gwydnabi (Gwyddnau), mab Llawfrodedd Farfog (Llawfrodedd Farchog). Mae'n bosibl fod Llawfrodedd yn un o Wŷr y Gogledd, ond ychydig a wyddys amdano.[1]

Sefydlodd gell neu llan yn Llanidloes, a enwir ar ei ôl. Dyma'r unig le yng Nghymru a gysylltir ag ef. Ceir Ffynnon Idloes yn Stryd Hafren, Llanidloes.[2]

Dywedir y bu gan Idloes ferch o'r enw Meddwid.[2]

Priodolir dihareb i Idloes yn Englynion y Clywaid (12fed-13g):

A glyweist-di a gant Idloes,
Gŵr gwar, hygar ei einioes?
'Goreu cynnydd cadwyd moes'.[3]

Dethlir gŵyl Idloes ar 6 Medi.[2]

CyfeiriadauGolygu

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), tud. 418.
  2. 2.0 2.1 2.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 330.
  3. Marged Haycock (gol.), 'Englynion y Clywaid', Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Cyhoeddiadau Barddas, 1994), tud. 317.

Gweler hefydGolygu