Llawfrodedd Farfog
Arwr Brythonig oedd Llawfrodedd Farfog neu Llawfrodedd Farchog. Ychydig iawn a wyddys amdano ond ceir sawl cyfeiriad ato yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.
Llawfrodedd Farfog |
---|
Yn ôl yr achau ym Mucheddau'r Saint, roedd Sant Idloes yn fab i Gwydnabi (Gwyddnau), mab Llawfrodedd Farfog. Sefydlodd Idloes eglwys Llanidloes, Powys. Mae ystyr yr enw 'Llawfrodedd' yn ansicr. Ar sail enghraifft - fel enw cyffredin efallai - yn nhestun Y Gododdin, cynigia Ifor Williams mai llaw yn yr hen ystyr 'bychan' yw'r elfen gyntaf tra bod ystyr yr ail elfen brodedd yn llai sicr; bachigyn o'r gair brawd ('barn') efallai.[1]
Yn y testun Cymraeg Canol wrth y teitl Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain, nodir:
- Cyllell Llawfrodedd Farchog, yr hon a wasanaethai i bedwar gŵr ar hugain i fwyta ar fwrdd.[2]
Gan fod yr arwyr eraill a restrir yno i gyd yn cael eu cysylltu â'r Hen Ogledd, mae'n debyg mai un o 'Wŷr y Gogledd' oedd Llawfrodedd hefyd, ond does dim sicrwydd am hynny. Dyma'r unig ffynhonnell sy'n ei alw yn 'Llawfrodedd Farchog' hefyd.
Rhestrir Llawfrodedd mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel perchennog un o 'Dair Prif Fuwch Ynys Prydain', sef 'Cornillo'. Maelgwn Gwynedd ac Eliffer Gosgorddfawr piau'r buchod eraill.[3] Dylid cofio pwysigrwydd gwartheg yn niwylliant y Celtiaid, fel arwydd o statws a chyfoeth, er enghraifft.
Cyfeirir at Lawfrodedd yn y chwedl gynnar Culhwch ac Olwen fel un o arwyr llys y Brenin Arthur ac yn y chwedl fwrlesg ddiweddarach Breuddwyd Rhonabwy, eto mewn cyd-destun Arthuraidd. Ceir enghreifftiau o'r gair llawfrodedd mewn cerddi gan ddau o'r Gogynfeirdd diweddar, Gruffudd ap Maredudd a Gwilym Ddu, ond mae'n bosibl mai ansoddair ydyw yma yn hytrach nag enw personol.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1938), tud. 286.
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), Atodiad III.
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), tud. 119.
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), tud. 418-19.