John Jones (Idris Fychan)

crydd a thelynor
(Ailgyfeiriad o Idris Fychan)

Telynor, bardd a llenor Cymraeg oedd John Jones (1825 - 3 Tachwedd 1887), a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Idris Fychan. Ystyrid Idris yn un o ganwyr gyda'r tannau gorau ei ddydd. Roedd yn gyfaill agos i'r bardd Ceiriog.[1]

John Jones
FfugenwIdris Fychan Edit this on Wikidata
Ganwyd1825 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1887 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, telynor, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cerdd gan Idris Fychan yn ei law ei hun

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Nolgellau yn 1825. Roedd yn hannu o deulu Ellis Roberts (Eos Meirion) ac roedd ei fam yn gantores dda hefyd. Fel crydd y daeth i ennill ei fywoliaeth ond yn fuan daeth ei ddoniau fel telynor i'r amlwg a daeth yn adnabyddus fel 'Idris Fychan'. Symudodd i weithio yn Llundain ac wedyn i Fanceinion yn 1857.[1]

Yn Eisteddfod Rhuddlan, 1850, enillodd wobr am ei draethawd arobryn ar 'Canu gyda'r Delyn', ac yn Eisteddfod Caerlleon 1866 dyfarnwyd y wobr iddo am draethawd ar 'Hanes a Henafiaeth Canu gyda'r Delyn'. Roedd yn fardd eisteddfodol yn ogystal ac yn un o gyfeillion agosaf Ceiriog.[1]

Bu farw ar 3 Tachwedd 1887 a'i gladdu ym mynwent Ardwick, Manceinion.[1]

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: