Anarawd ap Rhodri
Anarawd ap Rhodri (bu farw 916), oedd brenin Gwynedd rhwng 878 a 916.
Anarawd ap Rhodri | |
---|---|
Ganwyd | 855 Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 916 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Teyrnas Gwynedd |
Tad | Rhodri Mawr |
Plant | Idwal Foel, Elisedd ap Anarawd |
Llinach | Llys Aberffraw |
Bywgraffiad
golyguRoedd tad Anarawd, Rhodri Mawr wedi dod yn frenin y rhan fwyaf o Gymru erbyn diwedd ei oes, ond pan fu farw yn 878 rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion. Etifeddodd Anarawd orsedd Gwynedd. Cofnodir i Anarawd a'i frodyr Cadell a Merfyn gydweithredu'n glos yn erbyn brenhinoedd llai Cymru. Ymosododd yr Iarll Aethelred o Fercia ar Wynedd yn 881, ond llwyddodd Anarawd i ennill buddugoliaeth waedlyd dosto mewn brwydr ger ceg Afon Conwy (Brwydr Dial Duw), a glodforir gan y croniclydd fel "Dial Duw am Rodri", gan fod Rhodri wedi ei ladd mewn brwydr yn erbyn y Mersiaid.[1]
Gwnaeth Anarawd gytundeb a brenin Danaidd Efrog i geisio gwarchod rhag ymosodiadau eraill gan Mersia. Pan brofodd y cytundeb yma'n anfoddhaol, daeth i gytundeb ag Alffred Fawr o Wessex, gan ymweld a llys Alffred. Yn gyfnewid am amddiffyniad Alffred, derbyniodd Anarawd flaenoriaeth Alffred. Dyma'r tro cyntaf i frenin Gwynedd dderbyn blaenoriaeth brenin Seisnig, a daeth yn gynsail i'r goron Seisnig hawlio gwarogaeth o hynny ymlaen.[1]
Yn 894 gallodd Anarawd amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiad gan lu Danaidd ar Ogledd Cymru, a'r flwyddyn ddilynol ymosododd ar Geredigion ac Ystrad Tywi yn y de. Adroddir fod ganddo filwyr Seisnig yn ei fyddin ar gyfer yr ymosodiadau hyn. Yn 902 cafodd fuddugoliaeth arall pan ymosodwyd ar Ynys Môn gan rai o Ddaniaid Dulyn dan arweiniad Ingimund. Bu farw Anarawd yn 916 a dilynwyd ef gan ei fab Idwal Foel.[1]
Gweler hefyd
golyguErthygl Anrawd yng Ngeiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I ar Wicidestun
Cyfeiriadau
golyguAnarawd ap Rhodri Ganwyd: ? Bu farw: 916
| ||
Rhagflaenydd: Rhodri Mawr ap Merfyn |
Brenin Gwynedd 878–916 |
Olynydd: Idwal Foel ab Anarawd |