Iechyd meddwl a bywyd prifysgol
Gall myfyrwyr wynebu nifer o heriau iechyd meddwl yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Yn ystod prysurdeb a bywyd prifysgol mae’n hawdd anghofio edrych ar ôl eich hun, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’n naturiol i deimlo’n nerfus neu wedi eich llethu yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol, a gall gymryd dipyn o amser i ddod i arfer.[1]
Datganodd 3.7% o holl ymgeiswyr y DU gyflwr iechyd meddwl yn eu cais i astudio yn 2020. Mae’r ffigwr hwnnw wedi codi 450% dros y ddegawd ddiwethaf. Mae menywod 2.2 gwaith yn fwy tebygol o ddatgan cyflwr iechyd meddwl na dynion.[2]
Mae rhai myfyrwyr LHDT tua chwe gwaith yn fwy tebygol o rannu cyflwr iechyd meddwl, ac mae myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal bron deirgwaith yn fwy tebygol o gael problemau.[2]
Arwyddion posib
golyguDyma rai o’r arwyddion i gadw llygad amdanynt:
- Ymddieithrio o'r brifysgol a gweithgareddau ac ymrwymiadau eraill.
- Tynnu'n ôl yn gymdeithasol - mynd yn fwy ynysig a pheidio â gofalu amdanoch chi'ch hun.
- Problemau gyda chymhelliant a chanolbwyntio.
- Newidiadau mewn patrymau bwyta a chysgu.
- Ymgymryd ag ymddygiadau caethiwus neu gymryd risgiau diangen - fel defnyddio cyffuriau neu alcohol.
- Symptomau corfforol fel cur pen, problemau treulio a phoen corfforol - mae cysylltiad cryf rhwng y meddwl a'r corff.
- Hwyliau isel neu fwy o anniddigrwydd.
- Diffyg egni a chymhelliant.
- Teimlo'n ddagreuol, yn ddig neu'n ymylol yn gyson.[3]
Achosion
golyguMae nifer o achosion posib am ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y coleg neu brifysgol gan gynnwys;
- Pwysau i Lwyddo.
- Pryderon Ariannol.
- Ansicrwydd am y Dyfodol.
- Mwy o Ddefnydd o Dechnoleg a Chyfryngau Cymdeithasol.[4]
Cymorth
golyguMae gan brifysgolion rwydweithiau cymorth i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd setlo i fywyd Prifysgol neu sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl parhaus. Mae hefyd yn bwysig siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol os ydych yn teimlo eich bod yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl.
Dolennu allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Bywyd Prifysgol". meddwl.org. 2019-08-22. Cyrchwyd 2022-03-05.
- ↑ 2.0 2.1 "450% increase in student mental health declarations over last decade but progress still needed to address declarations stigma". UCAS (yn Saesneg). 2021-06-17. Cyrchwyd 2022-03-05.
- ↑ "Looking after your mental health at university | Prospects.ac.uk". www.prospects.ac.uk. Cyrchwyd 2022-03-05.
- ↑ "The College Student Mental Health Crisis | The Light Program". thelightprogram.pyramidhealthcarepa.com (yn Saesneg). 2020-07-22. Cyrchwyd 2022-03-05.